Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Os mynnir deall hanes Cymru, ac os mynnir adnabod enaid y Cymro, rhaid dechrau gyda'r mynyddoedd. Hwy fedr esbonio datblygiad hanes Cymru, - dangos paham y mae'n wlad ar wahân, pam mae'n rhanedig, ac eto'n un. Hwy fedr esbonio cymeriad amlochrog y Cymro,- eu haruthredd gwyllt hwy a thawelwch eu cadernid hwy sydd wedi ymddelwi yn ei enaid, enaid mor lawn o rinweddau ac mor lawn o ddiffygion.

Wrth edrych ar fap o Brydain, gwelwn ei bod yn ymrannu'n ddwyrain ac yn orllewin. Ar hyd ei thraethell orllewinol ymestyn rhes hir o fynyddoedd uchel, gan edrych, dros fryniau'r Iwerddon, tua'r môr mawr agored, a'r dyfodol. Ond gwastadedd ydyw'r rhan ddwyreiniol, yn edrych yn ôl, dros gulfor, tua'r hen fyd. Mewn rhyw dri lle neu bedwar, y mae toriad yn y rhes o fynyddoedd, ac ymestyn y gwastadedd, trwy'r agoriadau hyn, i fin môr y gorllewin. Rhennir y mynydd-dir, felly, yn wahanol wledydd, - Cernyw, Cymru, Ystrad Clwyd, a'r Alban, - gyda llinell droeog glan y môr yn derfyn ar ochr y gorllewin, a chyda gwastadeddau [w:Lloegr|Lloegr]] ar ochr y dwyrain.

Ymestyn Cymru allan i'r môr, a golchir godrau ei mynyddoedd ganddo ar dri thu, - y gogledd, y gorllewin, a'r de. I'r dwyrain gorwedd gwastadedd Lloegr, yr hwn dery fôr y gorllewin wrth enau'r Ddyfrdwy, gan wahanu Cymru oddi wrth Ystrad Clwyd, ac wrth enau'r Hafren, gan wahanu Cymru oddi wrth Gernyw. Gwelir ar unwaith fod natur wedi gwahanu Cymru oddi wrth rannau eraill Prydain, a fod iddi ei hanes priodol ei hun. Ymgyfyd ei mynyddoedd mewn annibyniaeth naturiol uwchlaw'r gwastadedd,