Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn bod, bydd gwahaniaeth hanfodol rhwng Cymry'r bryniau a Saeson y gwastadeddau; er y gallant ymuno at lawer amcan, at lawer amcan arall rhaid iddynt fod byth ar wahân. Y mae gwir yng ngeiriau'r bardd ddarluniodd y mynyddoedd,

"Dyma gastell gododd Duw,
Ar eira ar ei ben,
I anibyniaeth Cymru fyw,
Ar frig Eryri wen."

Os ydyw ei mynyddoedd yn gwahanu Cymru oddi wrth bobman arall, y maent yn ei rhannu hefyd - heblaw ysbryd annibyniaeth cawn ynddi ysbryd ymbleidio ac ymsectu. Pe buasai natur wedi gwastadau pennau'r mynyddoedd a llenwi'r dyffrynnoedd dyfnion sy'n eu rhannu, gan wneud y wlad yn wastad yn ogystal ag yn uchel, buasai Cymru'n unol yn ogystal ag yn annibynnol. Ond ymsaetha'r mynyddoedd i fyny, mewn afreoleidd-dra rhamantus, a rhennir y wlad gan afonydd sy'n gwneud eu dyffrynnoedd yn ddyfnach bob dydd.

Trwy ganol Cymru rhed trum ardderchog o fynyddoedd o ogledd i dde, o fôr i fôr. Y mynyddoedd hyn a'u llethrau ydyw Cymru. Nid oes ond ychydig o'r wlad, - rhannau o Fôn, Dyffryn Clwyd, Dyffryn Maelor, a thraeth y de, yn llai na dau gant o droedfeddi o uchder,- rhyw gylch bychan o amgylch y wlad. Y tu mewn i'r cylch hwn ceir cylch mwy, o dir dan bum cant o droedfeddi. Ond ymgyfyd canolbarth y wlad, y rhan fwyaf o lawer o honni, i uchder sydd rhwng pum cant a dwy fil o droedfeddi ac ymsaetha rhai pigau yn uwch na hyn, cyrhaedda mynyddoedd Eryri'n uwch na thair mil a hanner o droedfeddi. Cyrhaedda'r mynyddoedd yn uwch na llinell y ddwy fil mewn pedwar lle - a gellir edrych ar bedwar mynydd uchel fel pedwar penteulu, gyda thylwyth