Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lluosog o'u hamgylch. Y cewri mud hyn, - rhyfelwyr o lech a charreg galch, gyda chrib o wenithfaen ar eu helmau, - wnaeth hanes Cymru y peth ydyw, ac nid oes frenin eto wedi medru dileu eu dylanwad ar hanes a chymeriad eu preswylwyr.

Yn y gogledd ymgyfyd yr Wyddfa a theulu Eryri. Uchel ac ysgythrog ydyw y rhain, rhes gribog yn ymestyn o ddyffryn Conwy i eithaf penrhyn Llŷn. Wrth eu traed gorwedd Môn yn dawel yn y môr. Cymdogaeth agosaf Eryri ydyw mynyddoedd Berwyn, teulu lluosocach a manach, a'r Aran yn ymgodi mewn prydferthwch o'u canol. Yr un defnydd sydd i'r rhain, - llech a chrib o wenithfaen, - ond gyda charreg galch yn ymyl wen i odrau eu gwisg. Nid ydynt yn sefyll mor agos at eu gilydd a mynyddoedd Eryri, ac nid ydyw'r wisg sydd dan eu hamwisg wen yn unlliw, - y mae mynyddoedd llech Meirion yn laslwyd, bryniau calch Dinbych yn wynion, ac is-fryniau glo Fflint yn dduon. Mynyddoedd Eryri a llethrau gorllewinol y Berwyn ydyw gwlad Gwynedd; llethrau dwyreiniol y Berwyn ydyw gogledd gwlad Powys.


Yn nes i'r de gorwedd Plunlumon a'i blant, mewn hanner cylch yn edrych tua'r môr, gyda Cheredigion yn ei fynwes, a Phowys wrth ei gefn. Wrth ei droed y mae gwlad Dyfed yn ymestyn i'r môr, gyda phigau gwenithfaen yn ymgodi o fryniau ei gogledd, a chestyll yn gwylio dyffrynnoedd hafaidd tlysion y de.


Os edrychir i'r de-ddwyrain o drumau Plunlumon gwelir y Mynydd Du a'i dylwythau, - yn llawn o gyfoeth dihysbydd, - a gwastadedd bras rhwng eu godrau a môr y de. O gymoedd eu dwyrain rhed yr Wysg a'r Wy, - yn loyw fel arian cyn gadael y mynyddoedd, - i ymdroelli'n ddioglyd trwy ddaear goch Gwent tua genau'r Hafren a'r môr. Rhwng Gwent a Dyfed y mae bro a bryniau Morgannwg gwlad y cyfoeth a'r lluoedd; gwlad "yn llwynaidd gan