Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

berllanau, a gwlad yr haearn a'r glo: gwlad y maendai lle mae mwynder," a gwlad pebyll Cedar.

Fel eu gwlad a glannau eu moroedd, felly hefyd y mae'r Cymry. Gwyllt ydyw'r wlad, amrywiol, a rhyfedd; troellog ydyw ei ffyrdd, ac ni wel neb a'u tramwyo fawr ymlaen. Y mae Lloegr yn wastad, ei ffyrdd yn union, Lloegr y teithiwr o ben y daith faint sydd ganddo i'w gerdded, a faint fydd ei ludded. Felly am drigolion y wlad, - gŵr rheolaidd a phwyllog ydyw'r Sais, gŵr y gellir dibynnu arno, gŵr wel lwybr dyletswydd ei fywyd yn glir o'i flaen, gŵr heb bryder nac ansicrwydd meddwl nac ofn nac anwadalwch. Ond am y Cymro, y mae ei feddwl ef yn rhamantus ac athrylithgar, a gobaith yn gryfach na ffydd; ni wel ymhell ymlaen, y mae ei holl fryd ar y llecyn y digwydd fod ynddo: y mae ei lwybr heibio cornel y mynydd, ni wel beth sydd o'i flaen, nid yw dyfalbarhad dyn y llwybrau sythion yn perthyn iddo, ac nid oes sicrwydd beth a wna pan fo'r mynydd rhyngoch ag ef. Plentyn y mynyddoedd ydyw,-yn addaw i Dduw ar lawer awr o frwdfrydedd fwy nag y medrai bywyd o ddyfalbarhad ei gyflawni. Cryfder dychymyg a dyhead am fywyd gwell, a phruddglwyf wrth weled mor anodd ydyw sylweddoli pan fo'r brwdfrydedd wedi oeri, - dyna brif nodweddion y Cymro. Rhoddwyd swm ei gymeriad, hawster dychmygu ac anhawster cyflawni, mewn geiriau sydd erbyn hyn yn ddihareb,-

Hawdd yw dwedyd, Dacw'r Wyddfa;
Nid eir drosti ond yn ara,

Yr ymdrech gyntaf yn hanes Cymru yw'r ymdrech i gadw yr holl fynyddoedd dan eu teyrn. Dyna oedd amcan llawer un galluog o Arthur ddychymyg hyd Gadwallon hanes. Ond y mae toriad yn y mynyddoedd, ymestyn Dyffryn Maelor rhwng y Berwyn a mynyddoedd Teyrnllwg ac Ystrad Clwyd, ac nid oedd