Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Caer yn ddigon cadarn i rwystro'r gelyn dorri hen Gymru'n ddwy.

Wedi hynny bu'r mynyddoedd yn ymladd gyda'r tywysogion Cymreig yn erbyn brenhinoedd Lloegr. Ac er i Gymru ddod yn rhan o deyrnas brenhinoedd Lloegr, cadwodd y mynyddoedd hi'n wlad ar wahân. Y mae'r mynyddoedd yn sicrhau y bydd y Cymry'n bobl neilltuol, bydd yr Wyddfa yn y môr cyn y collant nodweddion eu hanes a'u meddwl.

Rhoddodd y mynyddoedd i Gymru undeb ac annibyniaeth; undeb trwy wneud gwahaniaeth rhyngddi a Lloegr, annibyniaeth trwy ei rhannu'n gantrefi ac yn gymydau. A dyna ydyw hanes hapus gwlad fynyddig fo dan wenau Rhagluniaeth, - undeb ac annibyniaeth yn graddol gryfhau eu gilydd, cyfraith a rhyddid yn dod yr un peth.

Nodyn I

Rhennid tir Cymru yn dywysogaethau, cantrefi, cymydau. Yr oedd terfynau'r tywysogaethau'n newid o hyd. Y pedair gadarnaf oedd Gwynedd, Powys, Deheubarth, a Morgannwg, - yn ateb i ryw fesur i bedair esgobaeth y wlad.

GWYNEDD. Yr oedd Môn yn dair cantref, dau gwmwd ymhob un. Ar ei chyfer yr oedd cantrefi Arllechwedd ac Arfon. Ar lethrau deheuol Eryri yr oedd cantrefi Llŷn, Eifionydd, ac Ardudwy. O amgylch Gwynedd yr oedd cylch o gantrefi fyddai'n aml yn rhan o honni, - Rhos a Rhufoniog, sef ehangder Mynydd Hiraethog, rhwng Conwy a Chlwyd; Tegeingl, y gantref fryniog rhwng Clwyd a Dyfrdwy; Dyffryn Clwyd; Edeyrnion a Phenllyn, cantrefi mynyddig dyffryn uchaf y Ddyfrdwy; Meirionnydd, rhwng Maw a Dyfi. Weithiau byddai Mawddwy a Chyfeiliog, holl lethrau dyffryn Dyfi, dan dywysog Gwynedd hefyd.

POWYS, gwlad y Berwyn, cantrefi a chymydau Dyfrdwy a Hafren. Dyffrynnoedd y Ddyfrdwy sy'n agor i Loegr yw Powys Fadog, - Ial, Ystrad Alun, Maelor, y Waen, Croesoswallt, Dyffryn Ceiriog. Dyffrynnoedd Hafren yw Powys