Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wenwynwyn,—Llannerch Hudol, Ystrad Marchell, Mechain, Caereinion, Cedewain, Arwystli.

Rhwng y rhain a'r De, y mae cymydau Ceredigion o du'r môr i Blunlumon; a Maelenydd, Elfael, Buallt, a Brycheiniog yr ochr arall,—cymoedd Gwy a'r Wysg. Byddai'r tywysogaethau bychain hyn yn newid dwylaw'n aml, weithiau dan Wynedd, dro arall dan Bowys, yna dan arglwyddi'r goror, a phob amser yn llawn ysbryd annibyniaeth.

MORGANNWG a Gwent,—dau gwmwd ar hugain hyfryd,—sydd ar lethrau a bro y De o Wy i Nedd. I'r gorllewin y mae tair cantref mawrion Ystrad Tywi, rhan arhosol y DEHEUBARTH o Nedd i Deifi. Rhwng hon a'r môr y mae ugain cwmwd Dyfed, bryniau a gwastadeddau y de-orllewin.