Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HANES CYMRU Cyfrol I - O. M. EDWARDS
PENNOD II - Y CENHEDLOEDD CRWYDR

Diwrnod tywyll du, diwrnod cymylog a niwliog, fel y wawr wedi ymwasgaru a'r y mynyddoedd; pobl fawr a chryfion, ni bu eu bath erioed, ac ni bydd eilwaith a'r eu hol hyd flynyddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth.

Y CYNTAF, hwyrach, i ymgartrefu yn y mynyddoedd oedd yr Iberiad. Un byr ac egwan oedd ef; yr oedd ei bryd yn dywyll. a'i wallt a'i lygaid yn ddu; ei ben yn hir a'r ei gorff byr; ei dalcen yn gul, a'i ên yn hir. Er eiddiled oedd, yr oedd bywyd rhyfedd ynddo; ac yr oedd eiddilwch ei gorff yn gwneud ei enaid yn effro, ac yn fyw i weled ac i glywed ac i deimlo pob peth oddi allan. Yr oedd sŵn y môr a su gwynt y mynydd yn ei glustiau o hyd, ymhyfrydai mewn prydferthwch lliw a melusder sŵn. Ogof y mynydd oedd ei gartref, a'i fedd. Yn ddiweddarach yn ei hanes, gwnai dŭ hir a bedd hir a'r lun ogof, - mynedfa hir gul ac ystafell yn ei phen draw. Cerrig nadd oedd ganddo'n offer rhyfel a heddwch; ni wyddai pa fodd i weithio pres neu haearn, ac afluniaidd iawn oedd ei ychydig lestri pridd.

Bu Prydain i gyd yn eiddo'r Iberiad hwn. O'r de ddwyrain y daeth. Pe dilynem ei lwybr, a phe crwydrem trwy'r gwledydd fu unwaith yn gartref iddo, aem trwy Ffrainc a Spaen, ac a'r hyd traeth Môr y Canoldir, ochr Ewrob neu ochr Affrig, tua'r Aifft ac Arabia.

Er ei orchfygu ymhob gwlad yr ymgartrefodd ynddi, y mae wedi gor-fyw llawer cenedl o orchfygwyr. Efe yw Siluriad Gwent a Morgannwg, - gellir