Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei weled a'r nos Sadwrn yng Nghaer Dydd neu Gasnewydd, gwelir ef yn mwynhau ac yn beirniadu canu'r Eisteddfod, ac nid anaml y cyfarfyddir ef yn nrysau Coleg yr Iesu. Trwy Gymru i gyd, yn enwedig yng Ngwent, ym Morgannwg, ac yng Ngwynedd, y mae ef wedi aros, - rhoddodd ei bryd a'i athrylith i'w orchfygwyr. Ond collodd ei iaith, ac nid oes yn aros o honni erbyn hyn ond ambell enw lle.

Iaith y Celt ydyw iaith Cymru Gymreig heddyw. A'r ôl yr Iberiad y daeth ef, gan wneud i hwn ymostwng iddo, neu gilio tua'r gorllewin o'i flaen. Hwyrach mai atgofion am yr ymdrech rhwng yr Iberiaid a'r Celtiaid ydyw rhai o'r ystraeon adroddir o oes i oes wrth blant am y tylwyth teg. Adroddir am wŷr bychain yn canu rhyw hen alaw felys, ac yna'n diflannu i ogof yn y ddaear, - efallai mai'r Iberiad yn dianc o flaen y Celt oedd hwn, yn amser y rhyfel rhyngddynt.

Yr oedd y Celt yn dal, yn ŵr o gryfder corfforol mawr, gyda phen crwn, llygaid gleision, a gwallt coch neu grasgoch. Pan ddaeth i Brydain yr oedd wedi dysgu adeiladu caban crwn uwchlaw pantle yn y ddaear; yr oedd wedi dofi'r ci a'r ych a'r afr; ac yr oedd ganddo offer pres, yn lle offer Carreg ac asgwrn yr Iberiad, yn fuan wedi iddo ymgartrefi yma. Y mae ei fedd fel ei fwthyn, yn grwn; ac nid yn hir fel bedd ac ogof yr Iberiad.

O'r iseldiroedd ddyfrheir gan y Rhein a'r Scheldt y daeth y Celt i Brydain. Pe olrheiniem ei lwybr ef, a phe crwydrem drwy'r gwledydd fu'n gartref iddo, aem a'r hyd y Rhein, ac a'r hyd y Danube wedi hynny, ac o'i dyffryn hi ymlaen i ganolbarth Asia. Yr oedd llwybr y Celt yn gyfochrog, felly, â llwybr yr Iberiad, - y naill yn dod drwy ganolbarth Ewrob, a'r llall a'r hyd ei godrau. Ym Mhrydain ymgyfarfyddodd y ddau bobl, a thrigasant ynghyd o fewn yr un ynys.