Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Daeth y llanw Celtaidd dros yr ynys a'r ddwywaith, yn ôl pob tebyg. Daeth y Gwyddel i ddechreu, a'r Brython a'r ei ôl. Bu ymdrech rhwng y Gwyddel a'r Iberiad am y mynyddoedd i ddechrau, ac yna rhwng y ddau â'r Brython oedd yn eu dilyn. Cyrhaeddodd yr Iberiad draeth eithaf yr Iwerddon; cyrhaeddodd y Gwyddel ymhell i'r ynys honno; cyrhaeddodd y Brython draeth gorllewin Prydain, rhwng afon Mawddach a'r afon Wyre, ond ni chroesodd y môr i'r Iwerddon.

Gwelir, felly, mai ymsymud tua'r gorllewin yr oedd y cenhedloedd hyn. Ac nid hwy oedd y cenhedloedd olaf; cawn weled y Sais a'r Norman, - dau dylwyth yn perthyn i'w gilydd fel y perthynai'r Gwyddel a'r Brython i'w gilydd, - yn dod â'r eu holau. Pan ddarlunnir Prydain i ni gan y Rhufeiniaid, y mae'n debyg fod yr Iwerddon a'r rhan fwyaf o fynyddoedd gorllewin Prydain yn eiddo'r Gwyddyl, ac yr oeddynt yn prysur ymgymysgu â'r Iberiaid oeddynt wedi gorchfygu. Dros yr holl wastadeddau yr oedd y Brythoniaid wedi ymledaenu, gan ymgymysgu â'r Gwyddyl a'r Iberiaid orchfygasent hwythau.

Pwy oedd yng Nghymru pan anwyd Crist? Yr oedd yma Iberiaid, Gwyddyl, a Brythoniaid. Yr oedd yr Iberiaid a'r Celtiaid wedi ymgymysgu dros y wlad. Rhennid y wlad rhwng y ddau dylwyth Celtaidd, - rhwng y Gwyddyl a'r Brythoniaid. Gwlad y Gwyddyl oedd Gwent, Morgannwg, Dyfed, a Gwynedd. Ac yr oedd y Gwyddyl yn dri llwyth, - y Demetæ yn Nyfed; y Silures yng Ngwent a Morgannwg; a llwyth Gwynedd, y tu hwnt i'r Ddyfrdwy a'r Mawddach. O'r Brythoniaid nid oedd ond un llwyth wedi cyrraedd Cymru, - yr Ordovices: a chanolbarth Cymru, mynyddoedd y Berwyn a'r Aran a Phlunlumon, oedd eiddo hwn.

Gwelir felly fod y Gwyddyl wedi ymdaenu dros ein holl wlad, ac wedi ymgymysgu â'r Iberiaid bychan