Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pryd du. A gwelir fod yr Ordovices Brythonig wedi ymwthio drwy ganol y llwythau Gwyddelig hyd nes y cyrhaeddasant y môr, gan rannu Cymru Wyddelig yn ddwy.

Tywyll iawn, hyd yn hyn, ydyw'r hanes am yr ymdrech rhwng y Gwyddel a'r Brython. Y mae eu caerau eto'n aros hyd aeliau ein bryniau, ond mud ydynt,—nid oes neb wedi eu dysgu i ddweud eu hanes. Hwyrach mai trwy ganolbarth Cymru yr oedd yr Iberiad a'r Gwyddel wedi mynd i'r Iwerddon, ac mai mynd i'r gorllewin a'r eu holau yr oedd y Brython. Hwyrach fod y Brython hefyd wedi ymledaenu dros Gymru i gyd; ac mai dod o'r Iwerddon yn eu holau, oherwydd diffyg lle ac amlder gelynion yno, ddarfu'r tylwythau welodd y Rhufeiniaid yng Ngwynedd ac yn y Deheubarth. Hwyrach fod y llwythau hyn hefyd wedi mynd i'r Iwerddon hyd y llwybr Brythonig trwy ganol Cymru, wedi ymrannu yn ddau dylwyth yn y wlad honno,—y naill yn troi tua'r gogledd a'r llall tua'r de,—ac yna wedi troi'n ôl i Gymru.

Beth bynnag am y dull y daeth, y mae'n amlwg fod y Celt wedi dod, ac wedi gorchfygu'r Iberiad oedd yma o'i flaen; ac y mae'n eglur fod y Celt a'r Iberiad wedi mynd yn un genedl. Y mae'n hawdd esbonio pam y gorchfygodd y Celt hefyd,—yr oedd yn gryfach. Yr oedd ganddo hefyd, yn ôl pob tebyg, arfau pres; ac nid peth hawdd oedd i ddyn bychan heb ddim ond carreg yn ei law wrthsefyll dyn mawr yn meddu tarian a phicell o bres.

O'r ddau yma,—y Dafydd a'r Goliath,—y mae'r Cymro wedi dod. Y mae wedi etifeddu athrylith freuddwydiol y naill ac ynni y llall; cafodd delyn Dafydd a tharian Goliath. Y mae llawer o'r Iberiad eto yn ei natur, a llawer mwy nag sydd o'r Celt. Yr Iberiad roddodd iddo ei naws grefyddol, ei gariad at gerdd, a'i athrylith droeog wyllt. Ni synnwn i pe profid mai o anialwch diderfyn y dwyrain y daeth.