Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fel cragen yn cario sur môr gyda hi i bob man, y mae'r Cymro wedi cadw syniadau'r anialwch drwy ei holl grwydradau a'i hanes, - hiraeth am dragwyddoldeb, ymdeimlad parhaus o bresenoldeb Duw, gallu i greu drychfeddyliau, - gallu i ymhyfrydu mewn unigedd a distawrwydd, - y mae adlais o'r anialwch mawr pruddglwyfus yn ei gân, y mae ysbryd mawredd yr anialwch ym mhob meddwl o'i eiddo. Ac y mae presenoldeb y mynyddoedd yn cadw'r hen argraffiadau hyn yn fyw. Damcaniaeth efrydwyr penglog ac iaith ydyw dweud, mai o'r dwyrain ac o'r anialwch y daeth yr Iberiad; ond pan gofir mor gyfaddas i feddwl Cymro ydyw'r Hen Destament, nid ydyw'n anodd credu mai brodyr o'r anialwch ydyw'r Cymro a'r Hebrewr.

Os mai oddi wrth yr Iberiad y cafodd y Cymro ei allu i ddychmygu a breuddwydio a rhyfeddu, oddi wrth y Celt y cafodd hynny o allu sydd ganddo i drefnu ac i lywodraethu. Ei natur Iberaidd wna iddo weled byd arall, ei natur Geltaidd wna iddo geisio trin y byd hwn. Gŵr rhyfel oedd y Celt; sefydlodd ymherodraethau, a thaflodd ymherodraethau i lawr. Yr oedd yn perthyn yn agos i'r Rhufeiniwr, a'r un oedd ei athrylith, - athrylith at uno a threfnu a llywodraethu. Efe roddodd ei ysbryd i Hanes Cymru; ond yr Iberiad roddodd ei ysbryd i Lenyddiaeth Cymru.

Nid ydyw'r ymdrech rhwng yr Iberiad a'r Celt wedi darfod eto. Yng nghyfnod cryfder ei athrylith y mae Shakespeare yn gwneud i ysbrydion ei arwyr ymladd y frwydr drosodd drachefn. Ac yn hanes Cymru, dan bob ymdrech arall, y mae ysbryd yr Iberiad yn ymdrechu yn erbyn ysbryd y Celt. Y mae pob diwygiad crefyddol yn fuddugoliaeth i'r Iberiad; y mae darganfod gwaith glo neu waith aur newydd yn fuddugoliaeth i'r Celt. Mewn pob cân newydd y mae llais yr Iberiad; yn hanes hela a chware pêl droed