Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

clywir llais y Celt. Y cymorth cryfaf gafodd yr Iberiad ydyw'r Beibl; y cymorth cryfaf gafodd y Celt ydyw'r Sais.

Fel rheol, y cyntaf i wladychu mewn gwlad fydd byw hwyaf ynddi. Nid ydyw dyfodiaid yn medru ymgynefino cystal â natur y wlad, oherwydd hynny y maent yn gwanhau ac yn marw mewn amser. A than bopeth. y peth rhyfeddaf a phwysicaf yn hanes Cymru ydyw adfywiad yr Iberiad. Trwy'r diwygiadau crefyddol y mae wedi ennill Llenyddiaeth Cymru yn eiddo iddo; ac oherwydd estyn yr etholfraint, y mae'r gallu politicaidd yn ei law. Dan ei ddylanwad y mae Cymru'n dod yn fwy llenyddol ac yn fwy gwerinol bob dydd.

Er hyn oll, rhaid cofio mai nid Iberiad pur ydyw'r Cymro. Y mae gwaed y Celt ynddo hefyd. Oni bai am y gwaed hwn, ni fedrasai dim ei gadw rhag gorfreuddwydio; diwinyddiaeth ac athroniaeth a barddoniaeth fuasai ei unig fyfyrdod holl ddyddiau ei fywyd. Ond yn y gwaed Celtaidd sydd ynddo y mae awydd am lywodraethu, am gysuron, ac am feddiannau. Y mae'r gwaed oer hwn yn tymheru ei natur ddychmygol wyllt.

Paham y desgrifir y Cymro mor aml fel Celt, a phaham yr anghofir am ei waed Iberaidd? Y rheswm am hyn ydyw mai iaith Geltaidd ydyw'r Gymraeg. Collodd yr Iberiad ei iaith, a dysgodd iaith ei orchfygwr, ond nid hwyrach heb newid peth a'r yr iaith honno. GalI Cymru golli ei hiaith lawer gwaith eto, ond erys neilltuolion meddwl y bobl o hyd. A newidir pob iaith ddysgant hyd nes y bo'n alluog i osod allan neilltuolion meddwl y bobl hynny. Erys rhyw adlais o iaith goIl yr Iberiad, ac o iaith y Celt, ymhen oesoedd rif y gwlith, ymysg preswylwyr y mynyddoedd hyn. Nid mewn geiriau wyf yn feddwl, ond mewn arddull, - yn null ffurfio brawddeg, yn nhroadau meddwl.