Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ai hanes yr Iberiad a'r Celt ydyw hanes Cymru? Na, tra'r oedd y rhain yn ymdrechu neu ymgyfuno yng Nghymru, yr oedd galluoedd eraill yn ymffurfio draw dros y môr, galluoedd fu'n gweithio'n nerthol wedi hynny yn ein hanes ni. O'r rhai hyn, y ddau bwysicaf oedd dinas yn codi mewn cors a haid o farbariaid yn ymwthio drwy goedwigoedd.

Mewn cors afiach a'r lan y Tiber, yng nghanol penrhyn red i Fôr y Canoldir, gwelwyd Rhufain yn cael ei hadeiladu, nid mewn un dydd. Yr oedd ei phreswylwyr yn perthyn o bell i'r Celtiaid oedd wedi crwydro tua'r gorllewin, ac yn debyg iddynt mewn meddwl ac iaith. Y ddinas hon, mewn amser, oedd i uno pob llwyth ac iaith mewn un ymherodraeth; wneud y byd yn ddinas, a dynion yn gyd-ddineswyr. Cawn weled llengoedd Rhufain yn gwneud ffyrdd gysylltai Gymru âr byd oddi allan. a'r amaethwr a'r gwladweinydd yn dod â'r hyd y ffyrdd hyn, a thraed yr hwn gyhoeddai efengyl tangnefedd ar y mynyddoedd.

Tra'r oedd yr Iberiad yn cyrchu tua Phrydain trwy ddeheubarth Ewrob, a'r Celt hyd lwybr cyfochrog trwy'r canolbarth, a thra'r oedd muriau Rhufain yn codi ar lwybr y cenhedloedd crwydr, yr oedd cenedl arall yn paratoi at ymsymud i'r un cyfeiriad hyd lwybr cyfochrog arall, yn y gogledd. Cenedl o bobl dalgryfion, o gorff anferth, oedd y genedl Deutonaidd hon. Yr oedd y Teuton yn gawr o ddyn, yn felynwallt, lygadlas, ac yn hagr iawn. Yr oedd ei ben yn fychan, ei dalcen yn isel, ei drwyn yn hir. a'i lygad yn enfawr. Yr oedd yn ddewr iawn, yn hoff o ryfel a hela, ond araf iawn oedd ei feddwl. Medrai orchfygu mewn brwydr, ond ni fedrai lywodraethu na chadw yr hyn a enillai. Gorchfygodd orllewin Ewrob, a daeth gwastadeddau Prydain a'u trigolion yn eiddo iddo. Erbyn heddyw nis ceir ef ond fel tir feddiannydd y gwahanol wledydd, - ni chymer fawr o ddiddordeb mewn celfyddyd na llenyddiaeth, deil i ymhyfrydu yn