Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hen arferion helwriaethol ei hynafiaid barbaraidd. Y mae eto yn ein plith yng Nghymru; clywir ei helgorn,. a deil i redeg a'r ôl llwynogod a dyfrgwn, a'r ychydig anifeiliaid gwylltion eraill sydd eto heb eu difa yn ein hynys. Dinistrio Rhufain, lladd ac ymladd oedd gwaith ei gyndadau; lladd rhyw fwystfil ydyw ei hoff waith yntau hyd y dydd heddyw. Ni roddodd ddim i lenyddiaeth y byd, ond cryfhaodd ysbryd annibyniaeth a rhyddid, ac y mae rhywbeth iachusol yn ei ddylanwad barbaraidd. Ymysg pa genedl bynnag y mae ef wedi sefydlu, y mae'r genedl honno wedi derbyn y diwygiad Protestannaidd ac wedi taflu ymaith iau offeiriadol Rhufain. Efe drwythodd Gristionogaeth y gorllewin âi natur filwrol, - peth mor anghydnaws â natur yr Iberiad a'r Celt; efe drodd yr eglwys yn eglwys filwriaethol, - peth mor annhebyg i wir eglwys brenin tangnefedd. Yr Iberiad fun ddeiliad y byd, y Celt yn llywodraethwr, a'r Teuton yn wrthryfelwr.

Ymhen amser wedi i'r tri hyn ddod, daeth un arall, - y Norman o'r gogledd. Daeth yn ddinistrydd i ddechrau. Gadawodd greigiau a hafanau Norwy, a daeth i losgi eglwysi, ac i ddymchwelyd teyrnasoedd. Daeth drachefn fel llywodraethwr, wedi ei ddofi a'i ddysgu. Hyd y môr y daeth i Gymru yn ei ddyddiau barbaraidd; o wastadeddau Lloegr y daeth pan wedi ei wareiddio, i godi cestyll a mynachlogydd - mae eu hadfeilion eto ymysg rhyfeddodau ein gwlad.

Ac o'r holl genhedloedd hyn, ddilynodd eu gilydd i'r mynyddoedd, y gwnaed cenedl y Cymry.

NODYN II.

Gellir darllen ychwaneg a'r testun y bennod hon yn y llyfrau a enwir yn y nodyn hwn, ymysg eraill. Yn llyfr diddorol ac eglur Isaac Taylor,—The Origin of the Aryans,—ceir