Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

crynhodeb o'r hyn a ddywedir yn y dyddiau hyn am y cenhedloedd crwydr. Ceir manylion gwerthfawr yn Village Communty Gomme hefyd.

Am hanes trigolion ein hynys ni'n dod yma, darllener llyfrau John Rhys, pen Coleg yr Iesu, yn enwedig ei Celtic Britain, ei Celtic Heathendom, a'i Arthur. Gweler ei amrywiol ddarlithiau, yn enwedig y Rhind Lectures.

Os mynnir darllen llyfrau syn taflu goleuni ar fywyd cyntefig cenhedloedd anwaraidd, darllener y traethawd a'r y teulu yn Custom and Myth Andrew Lang,—crynodeb o weithiau cyflawnach Morgan a Maclennan. Y mae erthygl debyg, ond yn dod i well canlyniad, ar Sylfeini Cymdeithas, yn yr ail lyfr o'r Llenor. Am y goleuni deifl hen gyfreithiau, darllener Ancient Law Syr Henry Maine. Y mae pob peth ysgrifenna Professor Tylor yn werth ei astudio hefyd; ac ennyn Grant Allen ein diddordeb bob amser.

Wedi cael peth cyfarwyddyd o lyfrau fel hyn, dechreua'r gwir efrydydd ddarllen yr hen gyfreithiau Cymreig yn fanwl; a dechreua graffu a'r traddodiadau, enwau lleoedd, a hen lysenwau, na feddent ddiddordeb iddo o'r blaen. Lloegr fod olion haenau o genhedloedd yn y cyfreithiau; medr weithio'n ôl oddi wrth wahaniaethau rhwng dosbarthiadau mewn cymdeithas at goncwest ar ôl concwest nad oes ond eu heffeithiau i ddangos eu bod.