Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y FENAI AC YNYS MON,—GER PORTHAMEL

HANES CYMRU Cyfrol I - O. M. EDWARDS
PENNOD III.- Y RHUFEINIAID.

Urbem fecisti orbem terrarum.

TRA'R oedd cenedl ar ôl cenedl yn crwydro tua'r gorllewin, i'r ynys oedd y pryd hwnnw a'r ymyl eithaf y byd, yr oedd dinas yn codi a'r lan Môr y Canoldir, dinas oedd i roi terfyn am rai canrifoedd i grwydradau'r cenhedloedd, dinas oedd i estyn ei theyrnwialen dros ynysoedd eithaf y ddaear, dinas oedd i wneud tylwythau gelynol yn gyd-ddinasyddion, dinas oedd i wneud gwledydd y ddaear yn un ymherodraeth. Y mae gwaith Rhufain wedi ei ddarlunio'n gyflawn yn y geiriau ddywedwyd wrthi gan un o'i beirdd,

Yn ddinas ti a wneist y byd i gyd.

Ond, ymhell cyn sylfaenu Rhufain, yr oedd dychmygu wedi bod yn heolydd dinasoedd gorwych, pa