Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynysoedd orweddai draw y tu hwnt i golofnau Moloch, yn y môr y tybid nad oedd terfyn iddo. Gwelwyd llongau Tyrus yn chwilio holI gilfachau Môr y Canoldir, ac yn meiddio hwylio rhwng y colofnau i'r môr dieithr di-lan. Yr oedd medr morwyr Tyrus yn ddihareb, - dy ddoethion di, Tyrus, o'th fewn, oedd dy long lywiawdwyr. Yr oedd llongau Tyrus yn syndod y byd, - eu rhwyfau o dderw a'u meinciau o ifori, lliain main o'r Aifft o symudliw oedd yr hyn a ledit i fod yn hwyl i ti, glas a phorffor o ynysoedd Elisah oedd dy do. Ymsefydlodd y Phoeniciaid hyn yma ac acw hyd lannau Môr y Canoldir, - a dwy ferch enwocaf Tyrus a Sidon oedd Carthage a'r dueddau Affrig a Tharsis a'r lan Hispaen. Tarsis oedd y bellaf i'r gorllewin o ferched Tyrus, a daeth mor gyfoethog fel y gofynnodd proffwyd Hebreig am ei llongau,

Pwy yw y rhai hyn ehedant fel cwmwl Ac fel colommenod i'w ffenestri?

I Darsis y doi cyfoeth Prydain a'r gorllewin, - yr arian a'r haearn a'r alcan a'r plwm â'r rhiai y marchnatai ei marsiandwyr yn ffeiriau Tyrus. Ond daeth dydd cwymp Tyrus, y ddinas sylfaenesid a'r y graig, marchnadyddes y bobloedd i ynysoedd lawer. Ymadnewyddodd wedi i Nebuchodonosor ei dinistrio, - dy derfynau oedd yng nghanol y môr, dy adeiladwyr a berffeithiasant dy degwch. Ond, yn y flwyddyn 332 cyn Crist, dinistriwyd hi gan Alecsander Fawr a'i Roegwyr, a'r ynysoedd y rhai oedd yn y môr a drallodwyd wrth ei mynediad hi ymaith.

Wedi cwymp Tyrus, ymholodd y Groegiaid o ba le yn y gorllewin y deuai ei gollid. Tua'r adeg yr oedd Alecsander yn gwarchae a'r Dyrus, yr oedd llong Groegwr yn hwylio allan o Fôr y Canoldir, rhwng colofnau Moloch, i chwilio am ynysoedd y gorllewin. A daeth colofnau Moloch, duw Tyrus, yn golofnau