Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hercules, enw Groeg. Erbyn hyn y mae magnelau Prydain ar graig Gibraltar, yn lle temlau'r hen genhedloedd fu'n anfon morwyr i chwilio am dani.

Pytheas oedd enw'r Groegwr anturiodd allan i fôr y gorllewin. Un o frodorion Marseilles Roegaidd oedd,—efrydydd lledredau, a sêr, a dylanwad y lleuad ar y tonnau. Wedi dod allan i Fôr y Werydd, hwyliodd i'r gogledd, gyda gororau Spaen a Llydaw, ac o'r diwedd cyrhaeddodd Brydain yn gynnar yn yr haf.

Gwelodd drigolion yr ynys yn dyrnu eu gwenith, ac yn gwneud medd o wenith a mêl, ond y mae'n amheus iawn a aeth yn ddigon pell i'r gorllewin i weled ardaloedd yr alcan. O Brydain hwyliodd i'r gogledd, gan gadw gyda thraethell y Cyfandir. Gwelodd Gimbrir Iseldiroedd yn gorfod ffoi yn awr ac eilwaith a'r eu ceffylau cyflymaf i osgoi'r llanw ddoi dros eu gwlad, gwelodd y fforestydd tywyll oedd yn gorchuddio gogledd Ewrob, hwyliodd a'r hyd glannau mynyddig danheddog Norwy tua Phegwn y Gogledd, hyd nes y cafodd ei hun mewn gwlad lle gellid gweled yr haul ganol nos, ac ymysg pobl dangosent iddo y lle'r oedd yr haul yn cysgu. O fôr oer marw'r gogledd trodd Pytheas yn ôl tua Phrydain, ac oddi yno adre, wedi dechrau masnach, feallai, rhwng Marseilles ac ardaloedd alcan Prydain, a rhyngddi ac ardaloedd amber rhuddgoch y Baltic.

Wedi ei farw, ni chredid Pytheas. Tybid mai cread ei ddychymyg ei hun oedd y petha welsai, ac ni roddid gwerth a'r ei ffeithiau ond fel defnyddiau rhamantau. I gyfoedion Pytheas,—megis Plato ac Aristotl,—nid oedd ynysoedd y gorllewin ond enw ar wlad o fwnau heb eu darganfod, rhywbeth fel enw Peru i'r rhai ganasant emynau Pant y Celyn gyntaf.

Collwyd Prydain eilwaith yn niwl a hud dychymyg y Groegiaid.

Wedi cwymp Tyrus, a thra gwywai Groeg, cododd Rhufain. Ei gwaith hi oedd uno gwledydd y ddaear,