Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a gwneud ffyrdd i bob man. Erbyn 275 c.c., yr oedd yr Eidal yn eiddo iddi; erbyn 202 yr oedd wedi gorchfygu Hannibal, ac yn ymbaratoi at ddinistrio Carthage: erbyn 190 yr oedd Macedonia, Groeg, a Syria wedi eu gorchfygu: erbyn 133, yr oedd Spaen wedi ei hennill a Charthage yn lludw: yr oedd holl lannau Môr y Canoldir yn eiddo Rhufain. Yna trodd y ddinas aniwalladwy ei llygaid tua'r dwyrain a thua'r gogledd. Croesodd Iwl Cesar, hoff arweinydd y bobl, yr Alpau, yn y flwyddyn 58 c.c.: a chyn pen y deng mlynedd yr oedd Gallia, yr holl wlad rhwng y Rhein a Môr y Werydd wedi dod yn wlad Rufeinig, - ffyrdd Rhufeinig yn rhedeg drwyddi i'r môr eithaf, a'i thrigolion yn ddeiliaid ffyddlon. Pan oedd Cesar yn gorchfygu trigolion Gallia, gwelodd eu bod yn cael cymorth o ynys Prydain oedd a'r eu gororau. Ac er mwyn cwblhau ei goncwest, penderfynodd ddarostwng yr ynys honno hefyd. Croesodd y culfor, gyda'r ail a'r seithfed leng, yn niwedd Awst 55 c.c. Nid oedd ei fyddin yn ddigon i orchfygu'r wlad, ac yr oedd yn hwyr ar y flwyddyn. Aeth yntau'n ôl, a daeth yn gynharach yn y flwyddyn wedyn, gyda byddin gryfach. Dywed ei hanes ei hun yn gorchfygu Caswallon, tywysog y Brytaniaid, yn cymeryd dinas noddfa ei lwyth, yn derbyn ymostyngiad llwythau dwyrain yr ynys, ac yn troi ei gefn a'r Brydain. Casglodd beth gwybodaeth am ganolbarth a gorllewin yr ynys, - dywed fod eu pobl yn gwisgo crwyn ac yn byw ar gig a llaeth eu praidd, fod yr Iwerddon y tu hwnt i Brydain, ac Ynys Môn rhwng y ddwy.

Am gan mlynedd wedyn ni ddaeth milwyr Rhufeinig i Brydain. Yr oedd y can mlynedd hyn yn gan mlynedd rhyfedd yn hanes y byd. Ynddynt y cyrhaeddodd Rhufain binacl ei gogoniant, ac y dechreuodd wywo. Ynddynt y gwelwyd Iwl Cesar yn gorchfygu cyrrau'r byd, o Balestina i Brydain, ac yn dod yn ymerawdwr mewn popeth ond enw, hyd nes y