Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llofruddiwyd ef gan garedigion yr hen weriniaeth. Ynddynt rhoddwyd enw ymerawdwr, yn gystal â'r gallu, i Augustus. Yn ystod ei ymherodraeth ef y canodd beirdd gorau Rhufain, - daw cyfnod aur llenyddiaeth bob amser yn adeg gorthrwm a llwyddiant, - Virgil a Horas ac Ovid. Yn ystod ei ymherodraeth ef yr oedd hen gredoau'r byd wedi gwanhau, yr oedd yr hen dduwiau wedi mynd mor lluosog fel nad oedd gan un awdurdod ar feddyliau a bywydau dynion. Ac yn nheyrnasiad Augustus, pan oedd wedi anfon gorchymyn allan i drethu yr holl fyd daeth teulu tlawd o Nazareth i Fethlehem Judea, a'r gyrrau eithaf yr ymherodraeth, i'w trethu yn eu dinas eu hun.. A thithau Bethlehem Ephratah, er dy fod yn fechan ymhlith miloedd Judah, eto o honot ti y daw allan i mi un i fod yn llywydd yn Israel: yr hwn yr oedd ei fynediad allan o'r dechreuad, er dyddiau tragwvddoldeb.

Yr oedd y baban hwnnw aned ym Methlehem yn amser y dreth i newid mwy a'r y byd ac a'r gymeriad dynion nag a wnaeth Rhufain, gyda'i holl gyfoeth a'i hathrylith a'i llengoedd. Ond cyn i'r newydd am yr Iesu ddod â'r hyd yr ymherodraeth i Brydain, yr oedd dyddiau blin a chynhyrfus. a chyfnewidiadau mawrion, i gyfarfod yr ynyswyr. Wedi i Iwl Cesar droi ei gefn, i lywodraethu byd yn lle gorchfygu ynys, yr oedd enw Rhufain, heb long rhyfel na milwr, yn gorchfygu ym Mhrydain. Yr oedd rhyw dywysog beunydd yn apelio at ymerawdwr y byd. Yn Ancyra bell darganfyddwyd carreg yn dweud fod brenhinoedd o Brydain wedi dianc o'u gwlad a dod at Augustus i gwynfan, ac ar gais rhyw ffoadur pendefigaidd y penderfynodd yr ymerawdwr Claudius orchfygu'r ynys.

Erbyn ail ddyfodiad y Rhufeiniaid, yr oedd Rhufain wedi dechrau gwywo, - yr oedd Augustus wedi marw, yr oedd Tiberius wedi ymroddi i ddrygioni