Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwarthus cyn ei fygu, ac yr oedd Caligula wedi gwallgofi cyn ei lofruddio. Yr oedd calon yr ymherodraeth wedi dechrau pydru, ac yr oedd dirywiad y brifddinas yn dinistrio'r gallu ddaliai'r byd yn un, yn gwanhau nerth y llengoedd oedd yn gorfod cilio'n ôl o gam i gam o flaen cenhedloedd y gogledd. Yr oedd y trethi'n drymion, yr oedd y swyddogion yn drahaus, yr oedd y milwyr yn greulon, yr oedd caethiwed y gorchfygedig ymron yn anioddefol, pan ddygodd Rhufain ein hynys dan ei hiau. Ar yr un pryd, yr oedd Prydain yn prysur ddadblygu, - yr oedd celf yn blodeuo, yr oedd mwnau'n cael eu gweithio, a hwyrach y buasai Caradog wedi gwneud yr holl ynys yn un ymherodraeth. Y maen anodd dweud pa un ai ennill ai colli wnaeth Prydain wrth golli Caradog a gorfod ymostwng i iau haearn Rhufain. Pe buasai'r Rhufeiniwr heb ddod ni fuasai Prydain wedi cael ei ffyrdd, ei dinasoedd, ei phlasau, ei hamaethyddiaeth, ei gweithfeydd, a'i hundeb mor fuan; ni fuasai wedi dioddef gorthrwm y llengoedd ychwaith, ni fuasai ei hamaethwyr a'i mwnwyr wedi talu trethi trymion Rhufain, ni fuasai wedi ei gwanhau ar gyfer ymosodiad y barbariaid Teutonaidd dorasant gaerau'r ymherodraeth ac a ddylifasant iddi, i ddinistrio pob peth. Yn lle ymddadblygu yn ei nerth ei hun, daeth Prydain yn rhan o ymherodraeth yr oedd ei sylfeini wedi dechrau gollwng. Yn narluniadau byw Tacitus, ac yn ysgrifeniadau Lladinwyr diweddarach, cawn hanes ein cyfnod Rhufeinig. - y goncwest, y trefnu, yr amddiffyn, y gwrthryfela, y colli.

I. Y GONCWEST 43—78

Yn y flwyddyn 43 wedi geni Crist, anfonodd yr ymerawdwr Claudius, yn ei awydd am goncwest, ei gadfridog Aulus Plautius i orchfygu Prydain. Gydag ef yr oedd pedair lleng o filwyr,- tua hanner can mil