Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o ddynion. Gydag ef hefyd, fel is-swyddogion, yr oedd tad a mab ddaethant yn ymerawdwyr ar ôl hynny,—y Vespasian a'r Titus ddinistriodd Jerusalem. Gorchfygodd Plautius ddeheudir Lloegr, - y wlad y tu de i'r Tafwys, - i ddechrau. Yr oedd un o'i brif gaerau, Caerloyw, yn nyffryn yr Hafren, ac yng ngolwg mynyddoedd Cymru. Cyn iddo groesi'r Tafwys, daeth yr ymerawdwr i'r fyddin, ac yna cychwynasant i dir Caradog, prif frenin y deyrnas, a'r wastadeddau'r dwyrain. Wedi ymladd deg brwydr ar hugain a gweled y Rhufeiniaid yn cymeryd Camalodunum drwy ruthr, dihangodd Caradog ar draws yr ynys i fynyddoedd y gorllewin, a galwodd ar Siluriaid rhyfelgar y mynyddoedd i baratoi ar gyfer dyfodiad y Rhufeiniaid.

Ar ôl Plautius daeth Ostorius Scapula, un o gadfridogion yr un ymerawdwr. Wedi gorchfygu pob gwrthryfel y tu dwyreiniol i'r Hafren, arweiniodd hwn fyddin yn erbyn y Cangi, llwyth breswyliai fynyddoedd Arfon, a daeth ymron hyd lannau môr Cymru. Cyn iddo orffen darostwng pobl Arfon, gorfod iddo droi i ymladd a'r Brigantes y tu ôl iddo.

Ond llwyth mwyaf anhyblyg Prydain oedd y Silures. Yr oeddynt yn rhyfelgar wrth natur, ac yn llawn hyder oherwydd fod Caradog, cadfridog dewraf y Prydeiniaid, yn eu mysg. Arweiniodd Caradog hwy i randir mwy mynyddig yr Ordovices, ac yno, yn rhywle ar odrau mynyddoedd Cymru, gyda milwyr yr holl lwythau, arhosodd Caradog i ddisgwyl Ostorius a'i Rufeiniaid, i ymdrechu'r ymdrech olaf am ryddid ei wlad. Yng Nghymru y mae pob hen achos yn marw, yno yr ymladd pawb ei frwydr olaf. Ni fu rhyfel ym Mhrydain, o amser y .Rhufeiniaid hyd y Rhyfel Mawr, nad yng Nghymru y ceid y milwr olaf neu'r castell olaf yn sefyll dros yr hwn orchfygwyd.

Rhydd Tacitus ddarluniad byw o'r frwydr rhwng Ostorius a Charadog. Er gwaethaf medr Caradog,