Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac er gwaethaf brwdfrydedd y Prydeiniaid, nid oedd bosibl sefyll o flaen disgyblaeth ac arfau dur y Rhufeiniaid. Collwyd y frwydr, a chyn hir syrthiodd Caradog ei hun i ddwylaw'r Rhufeiniaid. Arweiniwyd ef i Rufain, yr oedd pawb yn awyddus am weled un heriasai allu brenhines y byd cyhyd. Wrth gael ei arwain gyda charcharorion drwy'r ddinas i ddangos buddugoliaeth Rhufain, brenin oedd Caradog o hyd; o flaen gorsedd yr ymerawdwr ymddygodd fel brenin yn disgyn o hynafiaid anrhydeddus ac yn teyrnasu ar genhedloedd lawer.

Canmolwyd buddugoliaethau Ostorius yn Rhufain, ond nid oedd wedi llwyr orchfygu'r Silures. Ymladdasant yn ddewrach wedi colli Caradog, enillasant frwydrau, a dinistriasant lawer ysgwadron Rufeinig yn llwyr. Tybia'r hanesydd Rhufeinig fod y Rhufeiniaid wedi colli eu disgyblaeth pan yn sicr nad oedd Caradog ger llaw, neu fod y Silures wedi ymdynghedu y dialent ef. Yr oedd y llwyth diflino hwn, nid yn unig yn ymosod ar y Rhufeiniaid eu hunain bob cyfle gaent, ond yn codi'r llwythau eraill i wrthryfela ym mhob man. Bu Ostorius farw dan bwys ei bryder wrth ymladd yn eu herbyn; nid oedd profiad hir Aulus Didius yn ddigon i wneud mwy na'u rhwystro i ymddial ar y rhannau oedd y Rhufeiniaid wedi ennill; bu Veranius hefyd farw heb wneud dim ond ennill rhyw frwydrau bychain dibwys yn eu herbyn. Ni fedrai'r cadfridogion hyn wneud dim ond codi caerau i rwystro'r mynyddwyr ymosod ar daleithiau'r gwastadedd, rhes o gaerau ar hyd gororau Cymru ddaeth wedi hynny'n ddinasoedd ardderchog,— Uriconium, Caer Went, a Chaer Lleon ar Wysg.

Cyn marw, dywedodd Veranius y medrasai ennill Prydain i gyd i Nero pe cawsai fyw ddwy flynedd. Anfonodd Nero un ar ei ôl dreiodd wneud hyn,—Suetonius Paulinus alluog, uchelgeisiol, boblogaidd. Gwelodd ef mai Ynys Môn oedd dinas noddfa