Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a chartref brwdfrydedd llwythau'r mynyddoedd, a phenderfynodd ymosod arni. Cludodd ei wŷr traed dros y Fenai mewn cychod, a nofiodd ceffylau'r gwŷr meirch a'r eu holau. Wedi glanio gwelodd y Rhufeiniaid olygfa nas gwelsent ei thebyg yn un o wledydd y byd,—byddin fawr, gwragedd mewn dillad duon a chyda thorchau fflamllyd yn eu dwylaw'n gwibio drwy'r fyddin, a Derwyddon yn tywallt y melltithion mwyaf ofnadwy. Ni pharhaodd dychryn y Rhufeiniaid ond am ennyd ; rhuthrasant ar y fyddin a'r Derwyddon, a llosgasant holI lwyni'r ynys,—lle'r aberthai'r Derwyddon aberthau dynol i'w duwiau creulon.

Er hynny, yr oedd Suetonius fel pe dan felltith byth wedyn. Gorfod iddo adael Môn oherwydd fod y gwastadeddau'n codi mewn gwrthryfel o'i ôl; ac er iddo orchfygu Buddug wedi'r galanastra ofnadwy wnaeth ar y Rhufeiniaid, gwelodd y Prydeiniaid ef yn gorfod ymostwng i un o gaethion Nero,—un o'r gwibed oddi ar domen fydd yn ehedeg yn uchel,—ac yn gorfod rhoddi ei allu i fyny i dywysog anfedrus. Pan ddechreuodd Vespasian deyrnasu, anfonodd gadfridogion grymus i Brydain, ac o'r diwedd medrodd Julius Frontinus orchfygu'r Silures. Erbyn y flwyddyn 78 yr oedd holl lwythau'r ynys wedi eu gorchfygu, yr oedd y llengoedd yn gwneud ffyrdd drwy'r ynys, ac ymysg caerau eraill gallasid gweled Caer Lleon Fawr ar lan y Ddyfrdwy.

II Y RHUFENEIDDO 78—120

Yn 78 daeth Cnæus Julius Agricola i lywodraethu Prydain. Yr oedd ef yn fwy na chadfridog, yr oedd yn wladweinydd. Dywed ei fab yng nghyfraith, yr hanesydd Tacitus, nad oedd gerwinder y milwr yn ei ymddanghosiad,—gŵr addfwyn oedd, un yr oedd yn hawdd credu ei fod yn un da, un yr oeddis yn foddlon i gredu ei fod yn un mawr.