Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ei waith cyntaf oedd gorffen gorchfygu. Ymladdodd frwydr â'r Ordovices, a gwnaeth i'w fyddin nofio'r Fenai i Fôn a llwyr orchfygu'r ynys dywell honno. Gorffennodd y goncwest, ond ni ddefnyddiodd ei fuddugoliaeth ar Gymru er ei glod ei hun, eithr defnyddiodd hi er dwyn tangnefedd a dedwyddwch i'r mynyddoedd. "Ni anfonodd lythyr llawryf i ddesgrifio ei lwyddiant."

Dechreuodd trwy roddi trefn ar ei dŷ a'i weision ei hun, gan ddewis gweision na fuasai raid eu cosbi am ddrwgweithredoedd. Rhoddodd drefn ar y fyddin hefyd,—yr oedd bob amser ymysg y milwyr yn cosbi'r drwg ac yn canmol y da. Cyn ei amser ef yr oedd ar y Prydeiniaid gorchfygedig fwy o ofn heddwch na rhyfel, yr oedd trethi anghyfiawn heddwch yn fwy annioddefol na chreulonderau rhyfel. Mewn rhyfel gwynebai'r Prydeinwyr ddur a phigyn tarian y Rhufeiniwr; mewn heddwch newynid ef nes y rhoddai ei geiniog olaf am angenrheidiau bywyd. Rhoddodd Agricola derfyn ar y gorthrwm chwerw hwn, ac enillodd serch y Prydeiniwr. Gwnaeth fywyd yn ddiogel ac yn esmwyth, gwareiddiodd farbariaid trwy godi tai a themlau a llysoedd barn yn eu mysg. Addysgodd feibion y brenhinoedd, gan hoffi cyflymder deall naturiol y Prydeiniwr. A daeth yr ynyswyr gorchfygedig i hiraethu am feddu hyawdledd iaith Rhufain, iaith a ddirmygasent hyd yn hyn. Hoffasant bopeth Rhufeinig.—tai, gwisgoedd, pleserau, pechodau. Yn eu hanwybodaeth galwasant y cyfnewidiad yn wareiddiad, ebe Tacitus, pan nad oedd mewn gwirionedd ond rhan o'u caethiwed.

O ororau Cymru aeth Agricola i ucheldiroedd yr Alban, a gorchfygodd eu trigolion rhyfelgar mewn brwydr fawr. Eiddigeddai'r ymerawdwr Domitian wrth ei fuddugoliaethau; gwrandawai am danynt gyda gwên ar ei wyneb a phryder yn ei galon.