Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wedi llwyr orchfygu'r ynys, a morio o'i hamgylch, ymadawodd Agricola yn 84, ond aeth ei waith ymlaen.

Yr oedd ffyrdd Rhufeinig yn croesi'r wlad ym mhob man. Gwelir eu holion eto hyd fynyddoedd Cymru, a gall unrhyw fugail ddweud mai'r Rhufeiniaid neu Helen Luyddawg a'u gwnaeth. Y maent wedi eu gwneud mor gadarn fel nas gallodd traed pobl deunaw canrif eu treulion ddim,—daear i ddechrau, cerrig mawr ar hynny, haen o gerrig bychain a morter ar y rheini, haen o galch a chlai wedyn, a phalmant yn uchaf peth. A phan golli'r y ffordd, y mae ei henw,—strata,—yn aros yn aml. Yr oedd yn dringo y llethr acw,—Llechwedd Ystrad ydyw enw'r amaethdy; yr oedd yn croesi afonig yn Rhyd Fudr draw; yr oedd yn rhedeg yn union hyd y gwastadedd isod,—y Stryd Ddŵr ei gelwir eto.

Yr oedd ffordd yn rhedeg hyd ororau Cymru o Gaer Lleon ar Wysg i Uriconium, ac oddi yno i Gaer Lleon Fawr,—ffordd y dwyrain. Yr oedd ffordd arall yn rhedeg yn gyfochrog a hi o Gaerfyrddin i Ddeganwy,—ffordd y gorllewin. Cysylltid y ddwy ffordd hyn, oedd yn rhedeg ar hyd Cymru, gan lawer o ffyrdd croesion. Rhedai ffordd o Gaer Lleon ar Wysg ar hyd Bro Morgannwg ac ymlaen trwy Gaerfyrddin a thros fryniau Penfro i Dyddewi i lan y môr; rhedai ffordd arall i fyny dyffryn yr Wysg, a chyfarfyddai'r llall yng Nghaerfyrddin. Cychwynnai ffordd

O Gaerfyrddin i fyny Dyffryn Tywi. a rhedai dros rosdiroedd cefn Plunlumon i Gaer Sws, ac oddi yno i Uriconium. Yng ngogledd Cymru, cysylltid ffordd y dwyrain a ffordd y gorllewin gan ddwy ffordd groes; rhedai y naill ar draws mynyddoedd Meirion a Maldwyn, rhedai'r llall ar draws mynyddoedd Dinbych a Chaernarfon o Gaer Lleon i Gaer Seiont.

Yr oedd dinasoedd yn codi,—Caer Lleon gadarn, Uriconium enfawr, Caer Lleon ar Wysg orwych. Yr oedd plasdai Rhufeinig i'w gweled hefyd,—onid yw