Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IV. Y GWRTHRYFELA. 220—450

Yr oedd Rhufain yn ymlygru ac yn gwanhau, ac yr oedd cenhedloedd y gogledd a'r dwyrain yn ymosod arni ar hyd ei therfynau,—canys pa le bynnag y byddo y gelain, yno yr ymgasgl yr eryrod. Yn yr anrhefn yr oedd rhyw gadfridog buddugoliaethus, mewn rhyw ran o'r ymherodraeth, yn gwrthryfela ac yn cyhoeddi ei hun yn ymerawdwr. A llawer gwrthryfelwr enwog welodd Prydain yn y dyddiau hynny. Yn 288 cododd Carausius, llyngesydd medrus, o Gymru neu'r Iwerddon, a chyhoeddodd ei hun yn ymerawdwr ym Mhrydain. Dano ef, bu yr ynys yn annibynnol am flynyddoedd. Yr oedd wrth fodd y bobl, ac yn deyrn llwyddiannus. A'r un o'i ddarnau arian y mae darlun o honno'n cydio yn llaw Britannia; a'r yr ochr arall i'r darn y mae'r ysgrifen EXPECTATE VENI,—"Tyred, yr hwn a hir ddisgwyliwyd". Ac o rywle o'r gorllewin y daeth. Lladdwyd Carausius tua 293 gan Allectus, un o'i swyddogion, yr hwn a deyrnasodd yn ei le hyd 298.

A'r adeg hon, gwelodd yr ymerawdwr Diocletian nad oedd modd i un ymerawdwr deyrnasu mwyach, a rhannwyd yr ymherodraeth rhwng amryw ymerawdwyr. Daeth Prydain i ran Constantius, a gorchfygwyd Allectus ganddo. Adferodd heddwch a dedwyddwch cyn marw yng Nghaer Efrog yn 306. Bendithiwyd coffadwriaeth ei wraig Helen,—un ragorol, er o isel radd,—am ganrifoedd wedi ei marw; dywedid mai Cymraes oedd gan lais traddodiad diweddarach, ac mai hi wnaeth y ffyrdd a welir eto ar ein mynyddoedd, ar hyd y rhai y byddai ei milwyr yn dod i helpu brenhinoedd ormesid gan estron.

Mab Constantius a Helen oedd Cystenyn Fawr, yr hwn ail unodd ymherodraeth Rhufain. Ym Mhrydain y coronwyd ef; gyda byddin Brydeinig y