Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cychwynnodd i orchfygu ei elynion ac i deyrnasu ar yr holl fyd. O'r holl ymerawdwyr, Cystenyn oedd y Cristion cyntaf. Erbyn ei ddyddiau ef yr oedd yr Efengyl wedi ei phregethu ym Mhrydain, ac yr oedd rhai wedi rhoddi eu bywyd i lawr drosti. Yr oedd sêl y Derwyddon wedi oeri, ymdoddodd eu duwiau i fysg duwiau'r Rhufeiniaid,—ac ymysg y gwahanol dduwiau y soniai'r milwyr am danynt yr oedd Iesu, a hwnnw wedi ei groeshoelio. Pwy bregethodd yr Efengyl gyntaf nis gwyddom, hwyrach nad oes dim ond y Dydd Olaf ddengys pwy.

Wedi marw Cystenyn, daeth y barbariaid a'r anrhefn drachefn. Llawer cadfridog ddilynodd ei esiampl, gan arwain byddin o Brydain i'r Cyfandir; eithr nid i orchfygu, ond i gael ei dinistrio. Ac yr oedd y barbariaid yn ymosod ar Brydain o hyd; ni fedrodd buddugoliaethau Theodosius a Stilicho eu cadw draw. Yr oedd Rhufain ei hun mewn perygl, a chyn hir syrthiodd y ddinas dragwyddol o flaen Alaric. Cyn 456 yr oedd y lleng olaf wedi troi ei chefn a'r Brydain, gan adael rhyngddi a'r dinistrwyr oedd yn ymgasglu o'i chwmpas.

Er trymed y trethi, ac er amled y rhyfeloedd, yr oedd Prydain yn wlad gyfoethog pan adawodd y Rhufeiniaid hi. Yr oedd pobl gwastadedd dwyrain yr ynys yn siarad Lladin, ac yn byw fel Rhufeiniaid ym mhob peth. Ac yr oedd pobl mynyddoedd y gorllewin,—ein Cymru ni,—yn prysur ddysgu Lladin hefyd. Y mae geiriau Lladin yn ein hiaith eto, y mae enwau Lladinaidd a'r rai o'n trefydd a'n hafonydd hyd y dydd hwn. Yr oedd llawer plas prydferth ar ein llechweddau, a'i berchennog yn feistr ar gaethion lawer, a meysydd ffrwythlawn o'i amgylch. Yr oedd ffyrdd ardderchog yn rhedeg trwy hyd a lled y wlad. Yr oedd coedwigoedd wedi eu clirio, a chorsydd wedi eu sychu. Yr oedd gweithydd copr ym Môn, gweithydd plwm ym Maldwyn, gweithydd