Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

haearn ym Mynwy, a gweithydd aur ym Meirionnydd. Ar ein gororau yr oedd dinasoedd gwychion,—Caer Lleon ar Ddyfrdwy gadarn; Uriconium anferth ar yr Hafren, dair milltir ysgwâr o arwynebedd; Caer Lleon ar Wysg, gyda'i phlasau goreurog ysblennydd, ei thyrau uchel, a'i hystrydoedd a'i chaerau fu'n syndod canrifoedd wedi i'r Rhufeiniwr olaf ei gadael.

Wrth edrych ar y Gymru hon dros oesoedd o anrhefn a difrod rhyfel, hawdd y gallai croniclydd Cymreig roddi ffrwyn i'w ddychymyg, a chredu popeth ddywedai'r Rhufeiniwr am dani, ac ysgrifennu cyfieithiad anghelfydd, estronol ei gystrawen,—

"Bryttaen, oreu o'r ynysoedd, yr hon a elwit gynt y wen ynys yggollewigawl eigawn. A pha beth bynnac a fo reit y ddynawl arfer o andyffygedic ffrwythlonder, hi ae gwassanaetha. Y gyt a hynny, cyflawn yw o'r maestiredd llydan amyl; a brynneu ardderchawc, addas y dir dywyliodraeth, drwy y rei y deuant amryfaelon genedloedd ffrwytheu. Yndi hefyt y maent coetydd a llwyneu cyflawn o amgen genedloedd anifeileit. a bwystifileit. Ac y gyt a hynny, amrai cenfeinoedd o'r gwenyn, o blith y blodeuoedd yn cynulaw mel. Ac y gyt a hynny, gweirgloddyeu amyl o dan awyrolyon fynyddedd, yn y rei y maent ffynhoneu gloew eglur, o'r rei y cerddant ffrydyeu, ac a lithrant gan glaer sein, a murmur arwystyl cerdd; a hun yw y rei hynny yr neb a gysgo ar eu glan. A llynneu ac afonoedd; ac amryfael gyfnewityeu o'r gwladoedd tramor; ac wyth prif ddinas ar hugaint, a themleu seint ynddunt yn moli Duw, a muroedd a chaeroedd ardderchawc yn eu teccau. Ac yn y temlau, cenfeinoedd o wyr a gwragedd yn talu gwasanaeth dylyedus y eu Creawdyr ynherwydd Cristionogawl fyd."

Pan welwn Gymru nesaf, bydd Uriconium yn garnedd, Caer Lleon yn anghyfannedd ar lan y Ddyfrdwy, gogoniant CaerLleon ar Wysg yn ymadael, a chaniadau y deml yn troi yn udo ar y dydd