Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HANES CYMRU Cyfrol I - O. M. EDWARDS
PENNOD IV.- Y SAESON

Wele bobl yn dyfod o dir y gogledd, a chenedl fawr a gyfyd o ystlysau y ddaear. Yn y bwa ar waewffon yr ymaflant, creulawn ydynt, ac ni chymerant drugaredd; eu llais a rua megis y môr, ac ar feirch y marchogant yn daclus, megis gwyr i ryfel yn dy erbyn di, merch Seion.

TRA'R oedd Rhufain yn llywodraethu ac yn trethu y cenhedloedd orchfygasai, a thra'r oedd pob cenedl o fewn terfynau'r ymerodraeth yn ymroddi i amaethu'r ddaear ac i adeiladu trefi a masnachu, ac ymgyfoethogi mewn heddwch, yr oedd cenhedloedd y gogledd yn ymwthio drwy'r fforestydd tywyllion a'r corsdiroedd oedd y tu hwnt i ragfuriau eithaf y llengoedd, ac yn edrych gyda llygaid hiraethlawn ar feysydd heulog cnydiog yr ymerodraeth fawr. O flaen y barbariaid crwydrol aneirif hyn, gorfod i'r llengoedd Rhufeinig gilio'n ôl yn raddol; gan adael y taleithiau cyfoethog i'r anwariaid a dinistr. Hanner can mlynedd wedi i'r llengoedd adael Prydain i ymdaro gorau gallai yn erbyn y gelyn a'i anrhaith, y mae mynach Prydeinig yn cwyno yng nghanol difrod dinasoedd a themlau fel hyn,—

Oni chyflawnwyd ynom ni air y proffwyd, - Y cenhedloedd, O Dduw, a ddaethant i'th etifeddiaeth. halogaeant dy deml sanctaidd. Onid oedd dros yr holl wlad gelain y trigolion gyda'r eglwyswyr, yn ddarnau hyd yr heolydd, ie yn dyrrau cymysgedig, megis mewn gwryf mawr y gwesgir afalau ynddo, heb fedd iddynt? Dihangodd y gweddillion i'r môr a'r mynyddoedd gan oernadu. Rhoddaist ni fel defaid i'w bwyta, gwasgeraist ni ymysg y cenhedloedd.


Ni ddaeth diwedd ymerodraeth Rhufain yn ddirybudd. Ers canrifoedd yr oedd wedi bod yn