Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cadarnhau y caerau a'r muriau oedd yn amddiffyn ei therfynau gogleddol. Bygythid ynys Prydain o ddau gyfeiriad. Ymosodid arni o du'r gorllewin a'r gogledd gan y Pictiaid. Ac ar draeth y dwyrain ceisiai llwythau Teutonaidd, Eingl a Saeson, lanio o hyd. Yr oedd y Rhufeiniaid wedi trefnu'r ynys yn y ffordd oreu i wrthsefyll y ddau elyn hyn. Yr oeddynt wedi ei rhannu'n ddwy dalaeth filwrol, y dalaeth agored i ymosodiadau'r Pictiaid, a'r dalaeth agored i ymosodiadau'r Saeson. Talaeth y gorllewin oedd y naill, a thalaith y dwyrain oedd y llall. Ymestynnai talaeth y gorllewin o enau'r Hafren hyd yr hen amddiffynfa wgus sydd eto'n edrych oddi ar graig Dumbarton ar ddyffryn y Clyde. Cynhwysai, felly, y rhan fynyddig o Brydain y Rhufeiniaid, - yr ardaloedd elwid wedi hynny'n Gymru, Teyrnllwg, Ystrad Clwyd, Deifyr, a Bryneich. Wrth edrych ar fap, gwelir fod y dalaeth hon yn hir ac yn gul, - yn agored i ymosodiadau ac yn hawdd ei thorri'n rhannau. A'r hyd ei thraethell orllewinol yr oedd yn agored i'r Scotiaid oedd yn ymosod arni o'r Iwerddon. A'r ei therfyn gogleddol nid oedd y mur Rhufeinig mor gadarn nas gallasai'r Pictiaid dorri drwyddo. Ac yr oedd Deifyr a Bryneich, - y rhan o'r dalaeth oedd ar lan Mor yr Almaen, - i weled llongau'r Eingl yn hwylio tuag atynt o lannau'r Almaen draw dros y môr. Cyn i'r Rhufeiniaid ymadael, a'r y dalaeth hon yr oedd y curo mwyaf. Llywodraethid hi gan y Dux Britanniarum, yr hwn a arolygai symudiadau ei llengoedd hyd y ffyrdd arweiniai o Gaer Lleon ar Wysg yn y de i'r gwahanol orsafoedd ar fur y gogledd. Trwy ymladd caled yn unig y medrid rhwystro'r barbariaid Pictaidd rhag torri'r mur a dylifo i'r dalaeth. Wedi i'r Rhufeiniaid ymadael, cymerwyd gwaith a theitl y Dux, Rhufeinig gan y Gwledig Cymreig. Unwyd trigolion y dalaeth gan eu perygl, galwasant eu hunain yn GYMRY, "trigolion