Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr un fro", - a'u gwlad yn GYMRU. Er i'r wlad hon gael ei thorri'n ddwy wedyn, ac er Seisnigo y rhan ogleddol o honni, - y mae darn o'r rhan honno, Cumberland, eto'n cadw'r hen enw, - ymladdodd am flynyddoedd i gadw ei hundeb ac i rwystro'r Saeson rhag dod i mewn iddi. Ond nid y Pictiaid, wedi'r cwbl ddinistriodd Gaer Lleon, gan rannu yr hen Gymru'n ddwy.


Yr oedd y cenhedloedd Teutonaidd yn ymosod ar draethell ddwyreiniol Prydain er ys canrifoedd, a phrif waith llywydd y dalaeth ddwyreiniol oedd gwrthsefyll eu hymosodiadau. Rhan wastad yr ynys oedd y dalaeth ddwyreiniol, o Gaer Efrog yn y gogledd i draethell y de. Llywydd y dalaeth hon oedd y Cornes Litoris Saxonici, - iarll traeth y Saeson. Ar hyd traeth y Saeson - o enau'r Ouse hyd Ynys Wyth, - yr oedd rhes o gestyll Rhufeinig. Y mae map Rhufeinig o'r traeth hwn a'r gael a chadw. Y map olaf mewn llyfr o fapiau Rhufeinig ydyw, ac nid oes ond rhan o honno'n ddigon eglur i'w ddarllen, - rhan yn dangos cestyll y traeth a'r ffyrdd a'u cysylltai. Pan ymadawodd y Rhufeiniaid, ymosododd y Saeson ar yr holl gestyll, gan dorri drwyddynt i'r dalaeth ddwyreiniol, ac y mae llawer traddodiad ynglŷn â rhuthr y barbariaid i'r trefydd caerog.


Pwy oedd y Saeson hyn? Rhai o'r tylwythau Teutonaidd, grwydrent tua'r gorllewin trwy fforestydd a chorsydd gogledd yr Almaen, oeddynt. Yr oeddynt y tu allan i derfynau gogleddol yr Ymerodraeth, ac felly heb golli eu hannibyniaeth na'u barbariaeth. Fel y Scotiaid a'r Pictiaid, yr oeddynt yn fwy rhyfelgar na'r llwythau oedd wedi ymheddychu dan lywodraeth Rhufain ac efengyl tangnefedd; a phan gollodd Rhufain ei gallu i amddiffyn, ymosodasant ar y llwythau Rhufeinig fel adar rhaib ar adar dof.