Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhydd Tacitus ddarluniad ohonynt yn eu cartref pan drigent ar y tir isel rhwng genau'r Rhein a'i Oder. Yr oedd eu llygaid yn leision a chreulawn eu gwallt yn goch, a'u cyrff yn enfawr. Diadelloedd defaid a gyrroedd o wartheg oedd eu prif olud nid oeddynt yn malio mwy mewn aur ac arian na mewn clai. Nid oeddynt yn byw mewn dinasoedd codai pawb ei fwthyn lle y mynnai, wrth ffynnon neu goedwig neu weirglodd. Aberthent i dduwiau, - aberthau dynol weithiau; ond ni chyffelybent wyneb ar eu duwiau i unrhyw wyneb dynol, ac nid oedd ganddynt demlau ond y goedwig. Chwilient allan farn eu duwiau oddi wrth ehediad adar, ond yn bennaf oddi wrth ymddygiad ceffylau gwynion sanctaidd y llwyth. Pobl ddiog oeddynt; ond hoff o ryfel a gloddest. Barbaraidd oedd eu gwisg,- croen wedi ei sicrhau â phigau drain. Ymhyfryda Tacitus wrth gymharu eu bywyd iach Barbaraidd â bywyd mas weddol llwgr Rhufain. Ni wyddent beth oedd anniweirdeb, ac yr oedd eu harferion yn well na bywyd cenhedloedd wareiddiasid gan gyfraith. Crogen ddrwg - weithredwyr; ac am yr hwn a gyflawnai bechodau gwarthus., cleddid ef yn fyw mewn cors, a llidiart ar ei gefn.

Yr oedd y tir yn perthyn i'r llwyth yn gyffredin gellid gweled aradrau'r holl lwyth yn dilyn eu gilydd yn yr un cae. Yna rhennid y tir tro rhwng teuluoedd y llwyth, yn ôl y nifer o ychen anfonasant i aredig.

Pan oedd Tacitus yn ysgrifennu yr oedd bywyd cenedlaethol y tylwythau Almaenaidd yn dechrau newid. Llwythau o bobl ryddion oeddynt i ddechrau: heb frenin, na chyfraith, na threth. Ond, yn narlun Tacitus, gwelwn y brenin yn codi'n raddol i fri ac awdurdod. Un math o frenin oedd yr arweinydd milwrol. Byddai'r arweinydd hwn yn dewis bechgyn ieuainc mwyaf rhyfelgar y llwyth, yn rhoddi