Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

march a tharian a phicell iddynt, ac yn eu harwain i ryfel, er mwyn dod ag ysglyfaeth yn ôl. Fel yr oedd Rhufain yn gwanhau câi'r arweinydd milwrol fwy o gyfle, ac arweiniai filwyr i diroedd cyfoethocach a mwy heulog, gan ymsefydlu yno. Arweiniai rhai o'r brenhinoedd hynny fyddin i'r môr, gan ymosod ar ynys Prydain, a chludo ei hysbail yn ôl. Nid oedd y rhai hyn ond rhyw ddafnau o flaen y gawod. Tua chanol y bumed ganrif yr oedd llwythau cyfain yr Eingl ar Saeson yn gadael eu tiroedd tlawd gwlyb, ac yn cyfeirio eu llongau tua thraethell ddwyreiniol Prydain, traeth a chaerau ar ei hyd, ond traeth a gwlad gyfoethog amaethedig y tu hwnt iddo.

Nid oes wybodaeth sicr am yr ymladd fu rhwng y Saeson a'r Prydeiniaid yng nghaerau Rhufeinig traeth y dwyrain. Ymhell wedi hynny yr ysgrifennodd mynachod Seisnig hanes dyfodiad eu tadau barbaraidd. Dywedai traddodiadau'r Saeson mai yng Nghaint y glaniasant gyntaf. Dyma damaid o'u croniclau:—

"448.Yn y flwyddyn hon datguddiodd Ioan Fedyddiwr ei ben i ddau fynach ddaethai o'r dwyrain i Gaersalem i weddïo, ar y fan y safai tŷ Herod gynt.

"Ar y pryd hwnnw Martianus a Valentinianus oedd yn teyrnasu; ac ar y pryd hwnnw daeth pobl Seisnig i'r gwledydd hyn, ar wahoddiad Gwrtheyrn, i'w gynorthwyo ef, ac i orchfygu ei elynion. Daethant mewn tair llong hir, a'u harweinyddion rhyfel oedd Hengist a Horsa. Yn gyntaf, lladdasant holl elynion y brenin, a gyrasant hwy ymaith; ac yna troisant yn erbyn y brenin ac yn erbyn y Prydeiniaid, a llwyddlasant, drwy gymhorth tân a min y cleddyf."

Cyn 450, yr oedd y Saeson wedi gwneud llawer ymosodiad penderfynol ar yr hanner cylch o gaerau amddiffynnai yr ynys, ac efallai mai trwy wahoddiad tywysog Prydeinig y cawsant eu dyfodfa gyntaf drwy'r caerau hynny. Hyn sydd wir, - rhwng 450 a 516 yr oeddynt wedi gorchfygu'r holl wlad y tu