Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

deheu i'r Tafwys, o Gaint hyd derfyn gorllewinol gwastadedd Gwent. Ucheldir gwastad ydyw'r wlad hon rhwng dyffryn Tafwys a'r môr; a chyrchodd tri llwyth o'r dyfodiaid rhyfelgar iddo. Caint ydyw ei gornel ddwyreiniol, ynddi hi ymsefydlodd y Jutiaid, wedi torri ei chestyll gwarcheidiol, a difrodi'r meysydd ffrwythlawn enillasai celfyddyd y Rhufeiniwr oddi ar y môr.

Ar ôl y Jutiaid, daeth un o dylwythau'r Saeson, - y South Saxons, - y creulonaf a'r mwyaf anwaraidd o'u hil. Hwyliasant heibio traethell Caint, ac ymsefydlasant ymhellach i'r gorllewin ar draeth y Saeson. Cofiwyd yn hir am eu hymosodiad ar gaer Anderida, - "lladdasant bawb a drigai ynddi, ni adawyd un Prydeiniwr yn fyw." Ar ôl y South Saxons daeth y West Saxons, gan lanio ymhellach fyth i'r gorllewin. Cyrhaeddasant hwy ucheldir braf Gwent, lle'r oedd llawer bedd a theml a dinas ardderchog, daeth y wlad yn eiddo iddynt hyd ddyffryn Tafwys, - a gwelent ffordd Rufeinig yn eu gwahodd ymlaen i ddyffryn Hafren, at gyffiniau ail dalaeth Prydain, talaeth y Dux Britanniarum. A thra'r oeddynt hwy yn gorchfygu rhannau deheuol talaeth y dwyrain, yr oedd tylwythau o Eingl yn ymdywallt i'w rhannau gogleddol. Ond onid oedd y dalaeth ddwyreiniol yn un,-dan un swyddog? Paham y :gadewid iddi gael ei gorchfygu bob yn ddarn? Paham y gadewid i ddinas fel Anderida ymladd ei hun, heb gynorthwy? Pa le'r oedd iarll traeth y Saeson yn amser caledi'r ddinas ffyddlon a dewr? Yr oedd amryw yn ymgeisio at fod yn olynydd i'r Comes Rhufeinig, gan ymladd yn erbyn eu gilydd yn lle .amddiffyn eu gwlad. Pan ymchwalodd yr Ymerodraeth, yr oedd rhyw ymerawdwr yn codi ymhob congl iddi. A phan adawodd Rhufeiniaid ein hynys ni, cododd rhyw