Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wledig ymhob cornel o honi. Yr oedd Gwrtheyrn yng Ngaint, Emrys yng Ngwent, a rhywun arall yng Nghernyw, - pob un yn tybied ei hun yn wir olynydd i'r Comes Litors Saxonici, a phob un yn edrych ar y llall fel gwrthryfelwr yn ei erbyn. Wedi gorchfygu Gwrtheyrn a meddiannu Caint, dechreuodd y Saeson ymwthio ymlaen i'r gorllewin, a gwelsant gaerau Caer Loew a thyrau Caer Lleon ar Wysg. Ond yr oedd llwyddiant y barbariaid wedi uno'r Prydeinwyr, a chyn i'r West Saxons gyrraedd ffin talaeth y gorllewin, arweiniodd Emrys fyddin fawr yn eu herbyn. Yn rhywle ar derfyn y ddwy dalaeth, ymladdwyd brwydr Mynydd Baddon, tua'r flwyddyn 516.

Yr oedd hon yn un o frwydrau pwysicaf y rhyfel. Tyfodd yr hanes am dani yn nychymyg yr oesoedd ar ei hol, a thybid mai Arthur Fawr oedd yn arwain lluoedd y Prydeiniaid ynddi. Ond prin y medrai dychymyg Cymru ei gwneyd yn fwy pwysig nag ydoedd. Rhoddodd atalfa ar y llanw Seisnig am hanner can mlynedd; gwnaeth i'r ymosodwyr chwilio am fannau gwannach yn uwch i'r gogledd; a rhoddodd ysbryd newydd yn y Prydeiniaid.

Ym mlwyddyn y frwydr, yn rhywle ar gyffiniau'r ddwy dalaeth, ganwyd Gildas, ebe ef ei hun. Gwelodd olion y rhyfel, gwelodd yr anfoesoldeb ar anuwioldeb oedd wedi ei dilyn, gwelodd y tywysogion Cymreig yn ymladd, fel cynt, am unbennaeth eu talaeth. Efe yw hanesydd cyntaf ei bobl, a Jeremiah eu llenyddiaeth. Taniwyd ei ddychymyg wrth ddarllen proffwydi'r Hebreaid, chwerw ydyw ei gwynfan am bechodau ei bobl. Darlunia egni'r Prydeinwyr yn adeg y frwydr, a'u difrawder yn union wedyn.

"Nid aeth destrywedigaeth yr ynys, a'r cynhorthwy a ddigwyddodd iddi heb ei ddisgwyl, byth allan o gof y rhai ai gwelsent. Am hynny gwnaeth y brenhinoedd, a'r penaethiaid, a'r eglwyswyr, a'r cyffredin, bob un eu dyledswyddau. Ond