Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pan gyfododd to arall na wyddai oddi wrth ddim ond y tawelwch presennol, dymchwelwyd gwirionedd a chyfiawnder, fel na welir mo'u hol mewn gradd yn y byd o ddynion, oddieithr ychydig iawn y sydd â'u bywyd yn hoff gan Dduw, ac a'u gweddïau yn cynnal ein gwendid ni."

Nis gwn a fu Gildas byw i weled pethau gwaeth na'i broffwydoliaethau'n dod i ben. Tra'r oedd tywysogion y Prydeiniaid yn ymrafaelio am yr unbennaeth yr oedd y Saeson yn ymuno ac yn ennill nerth. Yn y flwyddyn 577 yr oedd Ceawlin wedi uno tylwythau'r Saeson ymgartrefasant y tu deheu i'r Tafwys; ac arweiniodd eu llu yn erbyn y dalaeth orllewinol. Cyn i'r llu hwn gyrraedd dyffryn Hafren, ymladdwyd brwydr Deorham rhyngddynt a thywysogion ,y dyffryn goludog hwnnw. Gorchfygwyd y Prydeiniaid, a syrthiodd tair dinas, - Caer Baddon, Caer Loew, a Cirencester, - i ddwylaw yr anrheithiwr. Trwy'r fuddugoliaeth hon, estynnodd Ceawlin derfynau ei deyrnas i lan môr y gorllewin, gan wahanu Cymru a Chernyw am byth oddi wrth eu gilydd. Yr oedd dyffryn bras yr Hafren yn agored iddo hefyd, gyda'i ddinasoedd a'i blasau. Ymdeithiodd i fyny'r dyffryn, - yr oedd ei amddiffynwyr wedi marw yn Neorham, - a gadawodd blas Cynddylan yn dywyll, wedi ei losgi a'i anrheithio. Ond nid Ceawlin oedd i orchfygu Cymru; ym mrwydr Fethanlea, yn 584, gorchfygwyd ef, a gorfod iddo gilio'n ôl o ddyffryn Hafren.

Erbyn dechrau'r seithfed ganrif yr oedd yr holl dalaeth ddwyreiniol, oddigerth Cernyw, wedi ei gorchfygu. Dros holl wastadeddau'r dwyrain a'r canoldir, yr oedd y Saeson ar Eingl wedi ymledaenu. Ac yr oeddynt wedi dechrau ymosod ar y dalaeth orllewinol, ar hyd ei chyffindir, o'r Hafren i Ystrad Clwyd. Yr oedd plas Cynddylan wedi ei losgi, yr oedd Bryneich a Deifr yn eiddo i'r Eingl. O flaen yr ymosodiad arnynt ymunodd y Cymry,—