Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oherwydd Cymry y galwent eu hunain yn awr, - yn erbyn gallu unedig y Saeson a'r Eingl oedd am ennill oddi arnynt goron eu talaeth orllewinol.

Ond yn awr dyma ni yn nechrau hanes Cymru. Yr ydym ym mysg rhai adwaenwn, gwelsom Gynddylan yn ymladd yn Neorham, clywsom alar Llywarch Hen. Y mae'r dwyrain yn Seisnig, y mae Cymry'r gogledd yn cilio'n ôl o gam i gam o flaen y gelyn, - cyn pen y deng mlynedd bydd Cymru, ein Cymru ni, wedi ei hamgylchu gan y Saeson a'r môr.

NODYN V.

Mewn llyfrau hanes hen ffasiwn cymerir yn ganiataol fod y Saeson ar Eingl naill ai wedi lladd Prydeiniaid Lloegr neu wedi eu hymlid i fynyddoedd y gorllewin. i rywun sydd wedi darllen hanes cenhedloedd bore y mae hyn yn beth anghredadwy.

Haerir fod y Lloegriaid wedi eu difodi am (i) na adawsant eu hiaith, (2) na'u crefydd, (3) nac enwau lleoedd; (4) fod y croniclau'n dweud yn bendant fod pob Prydeiniwr wedi ei ladd yn Anderida; (5) fod Gildas yn darlunio anrhaith creulawn yr ymosodwr.

Atebir (1) fod dyrnaid o Sbaenod wedi rhoddi eu hiaith i gyfandir bron, ac mai Lladin siaradai'r Lloegriaid; (2) fod crefydd Lloegr wedi dirywio; (3) gadawsant rai o brif enwau lleoedd Lloegr; (4) ni soniasid am Anderida oni bai mai eithriad ydyw; (5) dywed Gildas fod Lloegriaid yn ymuno â'r gelyn.

Osdifodwyd, y mae hanes ein sefydliadau'n anesboniadwy hefyd.