Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HANES CYMRU Cyfrol I - O. M. EDWARDS
PENNOD V.- ARTHUR

Ac ar hynny nachaf feirdd yn dyfod i ddatganu cerdd i Arthur, ac nid oedd dyn a adnabai y gerdd honno, eithr ei bod yn foliant i Arthur.
BREUDDWYD RHONABWY

Y MAE hanes a thraddodiadau am yr ymosod ar y mynyddoedd rhwng ymadawiad y Rhufeiniaid ac ymddanghosiad Maelgwn Gwynedd, wedi eu gweu yn rhamant fedd Arthur yn arwr iddi. Yma ac acw gyda godrau y mynyddoedd fu'n amddiffyn, y mae llawer ogof lle y tybir fod Arthur eto'n huno, i aros awr gwared ei wlad.

Er ys canrifoedd, er y goncwest Rufeinig, yr oedd y Pictiaid wedi bod yn curo yn erbyn y muriau godasid i amddiffyn terfyn gogleddol y dalaeth; ac yr oeddynt wedi torri trwyddynt lawer gwaith. Y mae olion y muriau hyn eto'n aros, wedi cyfnewidiadau ac ystormydd dwy ganrif ar bymtheg. Yr oedd un mur, mur Antoninus, rhwng y Forth ar Clyde. Wrth ymosod ar y mur hwn, mur saith milltir ar hugain o hyd, nis gallai'r Pict o'r mynyddoedd lai na rhyfeddu at athrylith y Rhufeiniaid, a thybid gan oesau eraill mai gallu goruwchnaturiol oedd wedi gwneud y muriau, ar ffosydd, ar ffyrdd. Yn gyntaf peth, doi'r Pict at ffos deuddeg troedfedd o led, yr hon oedd yn gorwedd o flaen y mur trwy ei holl hyd. Yn codi o'r ffos hon yr oedd mur, dwy droedfedd o led, o gerrig ysgwâr. Yr oedd hwn, mae'n debyg, yn uchel iawn, yn uwch na'r wal nesaf i mewn, ac yn gysgod i'r rhai safai i ergydio oddi arno. Ochr oedd y mur cerrig ysgwâr i'r wal