fawr, ddeg troedfedd o led,—wal o gerrig a phridd. Y peth welai'r Pict felly fyddai mur cerrig yn codi'n syth o'r ffos, a throsto gwelai helmau disglair y milwyr oedd yn cerdded hyd ben y wal. Gyda gwaelod y wal, ar yr ochr ddeheuol, rhedai llwybr pum troedfedd o led. Ar yr un ochr, hefyd, yr oedd tyrau'n edrych dros y mur, a gwylwyr arnynt ddydd a nos.
Yn nes i'r de, rhwng y Solway ar Tyne, yr oedd mur arall, mur Hadrian. Yr oedd hwn yn wyth troedfedd o led, ac yn ugain troedfedd o uchder. Nid oedd eisiau ffos o'i flaen, gan ei fod wedi ei godi ar ael garegog y bryniau saif uwchlaw dyffrynnoedd yr Eden ar Tyne. Yr oedd tri chant ac ugain o dyrau ar y mur hwn, a thros dri ugain o gestyll, a ffordd filwrol yn ei gysgod. Yn gyfochrog a hwn yr oedd mur triphlyg arall, a ffos, a ffordd.
Pan ymadawodd y Rhufeiniaid, gwelsom fod ymryson am y gallu wedi bod yn y dalaeth ddwyreiniol rhwng Gwitheyrn ac, Emrys. Bu llawer un, yn y dalaeth orllewinol hefyd, yn ymgeisio am swydd a gallu'r Gwledig gadwai'r mur. Ym mysg y darnau o ganeuon Cymreig y dywedi'r eu bod yn perthyn i'r bumed ar chweched ganrif, y mae cân o fawl, yn llyfr Taliesin, i Arthur Wledig. Dyma ychydig linellau o honi,—
“ |
|
” |
Eu hystyr, feallai, yn ein Cymraeg ni ydyw hyn,—
“ |
|
” |