Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd y gwahanol bendefigion yn ceisio eu hanibyniaeth ym mhob rhan o'r dalaeth, ac yn gwrthod ymostwng i'r Gwledig unai'r dalaeth, ac a'i hamddiffynnai. Pan fyddai'r gelyn yn difrodi, a'r ysbeiliwr heb neb i'w atal, ceisiai rhyw bendefig galluog uno'r dalaeth, a'i rheoli yn null y Dux Britanniarum. Cyn y medrai un felly wneud ei hun yn Wledig yr holl dalaeth, yr oedd yn rhaid ymladd llawer câd ddig; yr oedd yn rhaid difa llawer cydbendefig eiddigeddus; yr oedd yn rhaid cael lleng lurygog, fel gosgorddlu'r tywysog Rhufeinig, i gynnal ei freichiau ac i roddi grym i'w air. A phan fyddai'r Gwledig wedi medru gwneud ei hun yn un ben y dalaeth, byddai bob amser yn dynwared rhwysg ac awdurdod y Dux Britanniarum,—y fantell goch, ei gader gymhesur, ei osgorddlun cerdded hyd. y mur. Ac ebe'r un gân o fawl i Arthur Wledig,—

Ae goch gochlessur.
Ae ergur dros uur.
Ae kadeir gymessur.
Ym plith goscord uur.

Y maen debyg mai gwaith Arthur oedd amddiffyn mur y gogledd yn erbyn y Pictiaid a'u cyfeillion, môr—ladron o'r cyfandir. Sonnir am Arthur rai gweithiau fel am ryw Wledig arall, yn y caneuon sydd yn Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Coch Hergest a Llyfr Taliesin, caneuon sy'n dweud hanes y chweched ganrif, os credir eu bod wedi dod i lawr o amser mor bell. Ni sonia Gildas am y Gwledig hwn, ond yn Nennius cawn hanes y deuddeg brwydr ymladdodd. Hwyrach mai ym mro mur y gogledd yr ymladdwyd y brwydrau hyn, hwyrach mai yno y mae Coed Celyddon a Threwryd. Hwyrach mai yno y mae Camlan, lle collodd y Gwledig ei fywyd wrth amddiffyn y dalaeth.