Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ieuanc pengrych melyn, ar farch melyn. Yr oedd ei goesau, o ben ei lin i lawr, yn Ias; ac amdano yr oedd gwisg o sidan melyn wedi ei wnïo ag edau las, godreu'r wisg yn Ias hefyd,—y glas cyn Iased a dail ffynidwydd, a'r melyn cyn felyned â blodau'r banadl.Daeth ofn ar Ronabwy a'i gymdeithion wrth ei weled, a dechreuasant ffoi. Daeth y marchog o hyd iddynt ac addawodd ei nawdd iddynt, gan ddweud mai ei enw oedd Iddawc Cordd Prydain, a phaham y cafodd yr enw hwnnw. Pan oedd Iddawc yn gorffen dweud hanes ei ddrwg a'r bennyd ar drugaredd, clywent dwrf. Wedi edrych yn ôl, gwelent ŵr melyn—goch ieuanc, mewn gwisg o felyn a choch,—sidan melyn fel blodau'r banadl yn ymyl i wisg oedd gyn goched â'r gwaed cochaf erioed. Gofynnodd i Iddawc a gaffai ran o'r dynion bychain hynny oedd gydag ef, a dywedodd Iddawc y cai ran o'u cymdeithas. Wedi cerdded ychydig gyda hwy. Aeth ymaith a dywedodd Iddawc mai Rhuawn Pybyr ab Deorthach Wledig oedd. O'r diwedd cyrhaeddasant Ryd y Groes, a gwelent luestau a phebyll llu mawr. Yr oedd Arthur yn eistedd mewn ynys wastad islaw'r rhyd, ac esgob a phendefig gerllaw: a cher eu bron yr oedd gwas mawr mewn gwisg burddu, a'i wyneb cyn wynned ag asgwrn eliffant. Wedi ateb cyfarch i lddawc, gofynnodd Arthur dan wenu, ym mha le y cafodd y dynion bychain hynny. Gofynnodd Iddawc, wrth ddweud mai ar y ffordd y cafodd hwynt, paham y chwarddai Arthur. Iddawc, ebyr Arthur, nid chwerthin a wnaf, namyn truaned gennyf fod dynion cyn fawed a hyn yn gwarchod yr ynys hon, wedi gwŷr cystal â'i gwarchodai gynt. Gwelodd Rhonabwy y fodrwy oedd am fys Arthur, pe nas gwelsai honno ni allasai gofio dim o'r hyn welodd yn ei freuddwyd. Gwelodd hefyd fyddinoedd yn cyrchu tua'r rhyd. Daeth byddin o wýr ar feirch cochion,