Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn gwisgoedd cochion,—cymdeithion Rhuawn Pebyr, oedd a hawl i'r hyn a ofynnent ym mhob man. Daeth byddin arall tua'r rhyd; yr oedd rhan uchaf pob march cyn wynned â'r alaw,[1] a'r rhan isaf cyn ddued a machudd,—byddin Adaon fab Taliesin, ac ymwersyllodd hon hefyd ger y rhyd. Yna gwelodd Rhonabwy ŵr tal hardd, Caradog Freichfras, yn codi ac yn dweud yn eofn na ddylai byddin mor fawr fod mewn lle mor fychan, eithr y dylai fod yn ymladd ag Ossa Gyllell Fawr. Ac wrth arch Arthur wele'r holl fyddin yn cychwyn, a Rhonabwy wrth sgil Iddawc, tua Chefn Digoll. Wrth groesi'r rhyd, edrychodd Rhonabwy'n ôl, a gwelai ddwy fyddin arall yn dod. Yn y fyddin gyntaf yr oedd y milwyr mewn gwisg o sidan gwyn gydag ymylau purddu, ar feirch canwelw oddieithr eu gliniau duon, ac yr oedd eu baneri'n wynion a'u pigau'n dduon. Gwŷr Llychlyn oedd y fyddin wen, dan arweiniad March fab Meirchion: ac ar eu holau doi gwŷr Denmarc, dan arweiniad Ederri fab Nudd. Yr oedd y rhain mewn gwisgoedd purddu,[2] gydag ymylau gwynion, ar feirch duon gyda gliniau gwynion, ac yr oedd eu baneri'n dduon a'u pigau'n wynion. Gwelodd Rhonabwy ruthr y milwyr i weled Cai, y tecaf ddyn yn llys Arthur, yn marchogaeth ymhlith y llu. Gwelodd Gadwr, iarll Cernyw, yn dod â chleddyf Arthur iddo,—cleddyf o aur, a llun dwy sarff danllyd arno. Pan arafhaodd y llu dygwyd cader Arthur, a'r llen oedd i fod oddi tani,—llen na fynnai liw ond ei lliw gwyn ei hun: llen na welid neb fyddai arni, tra ef yn gweld pawb. Yna dechreuodd Arthur ac Owen fab Urien chwareu gwyddbwyll. Tra'r oedd y chware ar ei ganol, wele drindod i ddweud fod gweision Arthur yn blino brain Owen; ac yna wele dri o

  1. Lili'r dwr
  2. jet