Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

farchogion Arthur yn dod i ddweud fod y brain wedi ymosod arnynt i'w difa. Y cyntaf o'r rhai ddaeth i ddadleu achos y brain oedd Selyf fab Cynan o Bowys,—gŵr fu farw yn y gad ar forfa Caer yn 613. Gwelodd Rhonabwy wŷr Arthur yn eistedd mewn cyngor, i wneud heddwch am ennyd ag Ossa Gyllell Fawr. Gwelodd wŷr Groeg yn dwyn teyrnged i Arthur, clywodd Gai yn galw ar y milwyr i ddilyn Arthur tua'r de, ac wrth dwrf y fyddin yn cychwyn deffrodd, a gwelodd ei fod wedi cysgu teirnos a thridiau ar groen y dyniawed melyn yn yr hen dŷ.

Y mae arwyr chwe chant o flynyddoedd, o'r hen Garadog i Selyf ieuanc, wedi eu casglu at eu gilydd, i ymdaith gydag Arthur hyd ddyffryn Hafren yn erbyn Saeson y de. Y mae perffeithrwydd arddull y rhamant hon yn dangos yn eglur fod cenhedlaethau lawer, wrth ei hadrodd o oes i oes, wedi bod yn gloewi ac yn gloewi ei ffurf. Nid mewn un dydd y gwnawd llenyddiaeth fel llenyddiaeth hon, y mae ei hadeiladwyr wedi cario eu meini o bell,—y mae ymhob rhamant hen ddefnyddiau hanes wedi eu caboli gan y rhamantwr at ei bwrpas ei hun. O'r breuddwyd hwn, ac o'r rhamantau eraill, cawn lawer awgrym am hanes cyfnod cyntaf ein cenedl,—darnau o hen hanes ydynt, wedi eu gwneuthur yn adeilad arall. Yn y breuddwyd gwelwn orymdaith y llengoedd Rhufeinig fu'n cerdded hyd y mur, ac hyd y ffyrdd Rhufeinig sy'n arwain o honno i'r de. .Ac yn lle'r Dux Britanniarum gwelwn Arthur, a'r rhai fu'n ymladd dros Gymru o oes i oes.

Y mae llai o newid wedi bod ar ein barddoniaeth hynaf nag ar ein rhyddiaith hynaf. Yr oedd yn rhaid i'r rhamantwr wneud ei ystori yn ddealladwy iddo ei hun cyn y medrai ei chofio, yr oedd yn rhaid iddo ei gwneud yn ddealladwy cyn y mwynheid hi gan y tywysog a'r mynach a wrandawai arno. Ond yr oedd ffurf y gerdd yn help i'w chofio, pan na