Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddeallid hi gan yr hwn a'i hadroddai; ac yr oedd yn hawddach ganddo ddweud geiriau na ddeallai, a sôn am wŷr nas gwyddai pwy oeddynt, pan gofiai nad adrodd ei feddyliau ei hun yr oedd, eithr meddyliau beirdd y tybiai eu bod ymron yn ysbrydoledig.

Yn Llyfr Du Caerfyrddin, yn Llyfr Coch Hergest, yn Llyfr Taliesin ceir casgliadau o hen farddoniaeth, yn llawn adlais o'r brwydro fu rhwng Ffichtiaid a Gwyddyl a Chymry ac Eingl a Saeson, ar draeth y gorllewin, ar fur y gogledd, ac yn nyffryn Hafren.

Y mae llawer o'n barddoniaeth foreuaf yn desgrifio'r ymladd fu ar fur y gogledd. Dywed am gwýr gerddai'r mur mewn anrhydedd ac ardderchowgrwydd,—balchder y mur. Dywed am y mynych ymgyrch dros y mur i wlad y Pictiaid, pan anturiai'r Gwledig dros derfyn hen fyd y Rhufeiniaid, i wlad y gogledd neu i ynysoedd y môr,

"Tri llonnaid Prydwen yr aethom ni iddi,
Namyn saith ni ddaethom o Gaer Sidi."

Dywed am dri ugain cannwr yn sefyll ar y mur, ac am ddim ond saith yn dychwelyd gydag Arthur o Gaer Golud. Dywed am frad Cristionogion wrth amddiffyn y mur, am un

Fradychodd Iesu,
Ac ef yn credu.

A darlunia'r gelyn creulawn, yr hwn a ddygodd gysgod ar y byd, ac a wnaeth i fedydd fod mewn enbydrwydd, yn myned

"Ym mhlith oer gethern
Hyd yng ngwaelod uffern."

Dywed y farddoniaeth hon, hefyd, am yr ymdrech rhwng Gwyddel a Brython, am gywreinwaith a hud