Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y naill, ac am fuddugoliaeth y llall, pan ddarostyngwyd Gwyddyl y traeth gan Wledig Cymru,—

"Hudlath Mathonwy
yng nghoed pan dyfwy,
Cynan a'i caffwy Pryd pan wladychwy."

Yn y farddoniaeth hon y mae y Gwledig yn bob peth,—rhuthr Geraint ab Erbin ym mrwydr Llongborth, cledd a tharian Urien yng Ngwenystrad, ateb Owen ab Urien ym mrwydr Argoed Llwyfein, distawrwydd tywyll plas Cynddylan wedi'r anrhaith. Bob yn dipyn rlioddir yr holl ymladdwyr hyn yng nghwmni eu gilydd, dan un Gwledig. Gwnawd i bob unben yn hanes boreu Cymru ymladd dan faner Arthur,—yn wÿr y gogledd, yn wÿr y gorllewin, yn wÿr y de, ie yn hen dduwiau paganaidd hefyd. Y mae rhestr o'r milwyr hyn yn y Llyfr Du,—y porthor Glewlwyd Gafael Fawr, Cai deg, Mabon Fab Mydron fun gwasanaethu Uthyr, Manawyddan gyda'i ddwys gyngor a'i darian dolciog, Bedwyr a Gwrhyr, ar dewrion fu'n amddiiffyn pob goror yn yr ynys hon. Daeth y rhai hyn i gyd yn wÿr Arthur, ac yr oedd Arthur yn Wledig ar bawb. Oherwydd fod eisieu amddiffyn y dalaeth drwy ymladd parhaus rhag gelynion oedd yn ymgryfhau bob dydd, daeth y Cymry'n un, a daeth y Gwledig a'i air yn air ar bawb. Yn un o'r caneuon gelwir Arglwydd nefoedd a daear yn Wledig nef goludog.

Rywbryd ar ol yr ymladd rhwng Gwyddyl, Brythoniaid, Eingl, a Saeson, crwydrodd prydydd, Llywarch Hen neu rywun arall, dros y wlad, o fedd i fedd. A darlunia hwynt,—y beddau a wlych y gwlaw ar fro a bryn. Mae Dylan yn huno yn swn y don, a gorffwys Pryderi hefyd lle tery'r tonnau ar y tir. Mae bedd Gwrwawd mewn lle uchel, a