Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bedd Cynan dan gysgod y bryn. Mae bedd Owen ab Urien ym mhellder byd, mae bedd Rhydderch Hael yn Aber Erch.

"Bedd mab Osfran yng Nghamlan,
Gwedi llawer cyflafan;
Bedd Bedwyr yn Allt Tryfan."

Wedi gwisgoedd coch a chain dyma fedd Owen yn Llan Heledd; dyma fedd da Owen ab Llywarch Hen; ac wedi clwyfau a meusydd gwaedlyd, wedi marchogaeth ceffylau gwynion, onid hwn yw bedd Cynddylan? Mewn ynys y mae bedd cul a hir Meigen ab Rhun, mae bedd Llia Wyddel dan y gwellt a'r dail crin yn Ardudwy. Nis gwyr neb pwy biau'r beddau hir yng Ngwanas; mae bedd Llew Llaw Gyffes,—gwr oedd hwnnw na roddai'r gwir i neb,—wrth y môr.

"Pwy pieu y bedd yn llethr y bryn?
Llawer nis gwyr a'i gofyn.—
Bedd Coel mab Cynfelin."

Y mae bedd yn y dyffryn, a bedd yn y morfa, bedd dan y derw, a bedd dan ael y bryn, bedd isel llednais a bedd enwog,—ac am laweroedd o'r beddau gofyn y bardd,—Pwy pia hwn, a bedd pwy yw hwn? Nid oedd ond un heb fedd,—

"Bedd March, bedd Gwythyr,
Bedd Gwgawn Gleddyfrudd,
Ynfyd son fod bedd i Arthur."