Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HANES CYMRU Cyfrol I - O. M. EDWARDS
PENNOD VI MAELGWN GWYNEDD

Llu Maelgun bu yscun y doethan.

LLYFR DU CAERFYRDDIN.

TRA'R oedd y Pictiaid yn ymosod ar y mur, yr oedd yr Eingl yn ymosod ar y traeth. Cyn diwedd y chweched ganrif yr oedd Bryneich a Deifr yn eiddo iddynt, — holl arfordir y dwyrain, o Gaer Efrog i'r mur. Newidiodd hyn y rhyfel; yn lle Pictiaid ac Eingl yn ymosod ar dalaeth Brydeinig y Cymry, cawn deyrnas Anglaidd yn ymladd yn erbyn Cymry'r gorllewin a Phictiaid y gogledd. Wedi ymsefydlu ym Mryneich, gorfod i'r Eingl ddal pwys ymosodiadau'r Pictiaid, a chafodd y Cymry amser i ymosod ar elyn arall.Yr oedd y Gwyddyl wedi ymsefydlu yng Ngwynedd ac yn Nyfed, wedi ymfudo o'r Iwerddon ac o'r Alban, ac wedi medru ymgartrefu ar hyd traeth gorllewin Cymru tra'r oedd y Gwledig yn ymladd â'u cydgenedl ar y mur. Pan ddaeth yr Eingl rhwng y Cymry a Gwyddyl y gogledd, trodd y Gwledig ar y Gwyddyl oedd yng Nghymru. Yn llyfr Taliesin sonnir am Gunedda, a'r ofn wnâi Eingl Bryneich yn welw wrth feddwl am dano. Efe yw Cunedda Wledig y traddodiadau Cymreig. Dywed Nennius mai o'r gogledd, o Fanau Gododin, y daeth. Dywed traddodiad ei fod yn fab i ferch Coel, yr hwn oedd yn byw, yn ôl bob tebyg, yn rhan orllewinol Ystrad Clwyd. Erys enw Coel eto yn enw Kyle, yn sir Ayr; ac y mae wedi aros, heblaw hynny, mewn hwiangerddi. Nid oes ryw lawer o