Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddadblygiad mewn hwiangerdd, y mae plant pob oes yn debyg iawn i'w gilydd, ac y mae plant y Saeson eto'n clywed, —

Old King Cole was a merry old soul,
:And a merry old soul was he.

Y mae traddodiadau Rhufeinig yn hanes teulu Cunedda Wledig. Y mae enwau Rhufeinig ymysg ei hynafiaid, gelwid un o honynt yn Beisrudd, yr oedd ganddo osgordd a gwregys aur y Dux Britanniarum. Tra'r oedd Cunedda'n Wledig daeth rhan ddeheuol y dalaeth,—ein Cymru ni,—yn fwy pwysig na gogledd y dalaeth. Yr oedd yr Eingl wedi mynd â darn o'r gogledd; ac nid oedd y mur yn amddiffyn rhag y Pictiaid mwy. Daeth Cunedda Wledig a'i deulu tua'r de, ac yngln â Gwynedd a Cheredigion y sôn traddodiad fwyaf am dano. Pan ddaeth i gyffiniau Gwynedd y mae'n debyg fod yr holl Gymry, Ordovices y gogledd a Silures y de,—wedi ei dderbyn fel eu Gwledig. Ei waith oedd gyrru'r Gwyddyl o Wynedd a Dyfed, neu eu darostwng dan lywodraeth Gwledig y Cymry. Dywed traddodiad mai oddi wrth fab iddo ef, Meirion, y cafodd Meirionnydd ei henw; ac mai oddi wrth fab arall neu frawd, Ceredig, y cafodd Ceredigion ei henw hithau. Y maen debyg mai Ceredigion a Meirionnydd,—yr hen Feirionnydd rhwng afon Mawddach ac afon Dyfi,—orchfygwyd gan Gunedda a'i deulu ym mhoethder yr ymladd. Gyrasant y Gwyddyl, efallai, o'r parthau hyn; ond, pan oedd nerth ac undeb y Gwyddyl wedi eu torri, gadawyd iddynt aros yng Ngwynedd a Dyfed, naill a'i fel deiliaid i'r Gwledig, neu dan is—frenhinoedd darostyngedig iddo. Gallwn yn hawdd ddyfalu mai'r perygl yr oedd y Cymry ynddo oherwydd ymfudiad parhaus y Gwyddyl i'w gwlad,—ymfudiad parhaus wnai'r dyfodiaid yn allu cryfach na hen breswylwyr y tir,— gallem feddwl