Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mai'r perygl hwn wnaeth i'r Gwledig ddod o'r gogledd, a gallem feddwl mai'r perygl hwn hefyd wnaeth i holl dywysogion y Cymry ymuno i gynnal breichiau Cunedda Wledig.

Nis gellir byth, hwyrach, ddweud achau teulu Cunedda Wledig yn glir. Ond y mae un peth yn sicr am danynt, mai hwy ddarostyngodd allu'r Gwyddyl ac a roddodd unbennaeth Cymru i'r Cymry. Gorchfygasant y dyfodiaid, wedi rhyfel blin am amryw genhedlaethau. Ar yr un pryd, y mae'n sicr fod y rhyfel yn para ar ororau gogleddol y dalaeth,—rhwng Cymry, Gwyddyl, ac Eingl. Bu dau ganlyniad, o leiaf, i ryfeloedd a buddugoliaethau Cunedda a'i deulu. Un oedd,—bu'r rhyfel, fel bob amser, yn ddinistr i burdeb crefydd a moesoldeb y wlad. A chanlyniad arall oedd hwn,—pan aeth y perygl oddi wrth y Gwyddyl heibio, nid oedd y tywysogion eraill mor foddlon i ddisgynyddion Cunedda fwynhau gallu a rhwysg y Gwledig.

Dyma ddau ganlyniad fuasem yn ddisgwyl; ac y mae gennym sicrwydd mai'r ddau ganlyniad hyn fu. Gellir ameu'r traddodiadau gasglwyd gan Nennius, a thraddodiadau loffwyd gan eraill ar ei ôl; gellir ameu caneuon Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Coch Hergest a Llyfr Taliesin, wrth gofio mai wedi'r ddeuddegfed ganrif yr ysgrifennwyd y llyfrau hyn. Ond nid oes wiw ameu Gildas. Yr oedd ef yn byw yng nghanol y chweched ganrif, ac y mae'r ffeithiau hanesyddol sydd yn ei gwynfan chwerw, er mor ychydig ydynt, yn werthfawr iawn. Yn ei amser ef, pan oedd y Gwyddyl wedi eu darostwng, a'r Saeson wedi eu gorchfygu yn y dalaeth ddwyreiniol ym mrwydr Mynydd Baddon, yr oedd amryw fân frenhinoedd yng Nghymru. A'i allu'n fwy na'u gallu hwy, yr oedd Maelgwn Gwynedd, pen teulu Cunedda Wledig. Cofier mai mynach oedd Gildas, ac mai ei duedd oedd gwneud ei ddarlun mor ddu ag y medrai,